Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XII.

Y PARCH. LEWIS WILLIAM, LLANFACHRETH.

Cyfarfyddiad olaf Lewis William â Mr. Charles—Yr ymddiddan rhyngddynt—Cylch ei lafur gyda'r Ysgol—Ei grefyddoldeb—Ei lythyr o Aberdyfi—Ei ymddiddan a Marchog y Sir—Yn cadw Ysgol Madam Bevan yn Celynin yn 1812—Gorfoledd yn Ysgol Bryncrug—Yn ffarwelio a'r capel yno—Yn ail gychwyn yr Ysgol yn Nolgellau yn 1802—Yn priodi yn 1819—Yn ymsefydlu yn Llanfachreth—Yn dechreu pregethu yn 1807—Sabboth yn Nhanygrisiau—Engreifftiau o'i ddull yn rhoi ei gyhoeddiadau—Ei ddiwedd gogoneddus yn 1862.

ERIOED ni bu apostol nac archesgob yn mawrhau ei swydd yn fwy nag y mawrhai Lewis William ei swydd o ysgolfeistr, trwy apwyntiad a than arolygiaeth Mr. Charles. Pan y cyflogwyd ef yn y flwyddyn 1799, gadawodd weithio ar y tir yn Llanegryn, ac aeth at John Jones, Penyparc, un o'r ysgolfeistriaid eraill, am dri mis i ddysgu darllen Cymraeg, a dyna yr holl barotoad at ei swydd. Cymerai wers i'w helpu ymlaen oddiwrth bob dyn byw a gyfarfyddai, ac oddiwrth bob amgylchiad a ddeuai i'w ran yn ffordd rhagluniaeth. Gwnelai Mr. Charles hefyd yn bersonol bob peth yn ei allu i'w gyfarwyddo a'i addysgu, yn enwedig pan yr ymwelai yn achlysurol â'r ysgolion a gedwid ganddo, yn ngwahanol ardaloedd y wlad.

[Y Parch. William Davies, Llanegryn, mewn llythyr dydd— iedig Mawrth 16, 1898, yn rhoddi adgofion dyddorol am Lewis William a ddywed:—"Ryw brydnawngwaith yn 1855, yr oedd Lewis William a minau yn myned i gynal Cyfarfod Dirwestol i Bontddu (lle haner y ffordd rhwng Dolgellau a'r Abermaw). Byddai Cyfarfodydd Dirwestol yn cael eu cynal yn rheolaidd y pryd hwnw yn Nosbarth Dolgellau, ac yr oedd