Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lewis William a minau wedi ein penodi gyda'n gilydd y flwyddyn hono i gynal cyfarfod yn Bontddu, ac hefyd yn nghapel yr Annibynwyr yn y Brithdir, a chawsom lawer ymgom ddifyr ar y ffordd o'r naill le i'r llall, oblegid yr oedd Lewis William yn un difyr iawn yn ei gwmni. Wedi i ni gyraedd yn agos i Bontddu, dywedodd Lewis William wrthyf:

'Fe fum i yn cadw ysgol ddyddiol yn y Bontddu yma, tua deugain mlynedd yn ol, a'r pryd hyny y gwelais Mr. Charles o'r Bala am y tro diweddaf. Yr oedd ef a Mrs. Charles wedi bod yn Abermaw er mwyn eu hiechyd, ac yr oeddynt yn dychwelyd eu dau mewn gig, a phan gyferbyn a'r capel, lle yr oeddwn yn cadw yr Ysgol, disgynodd Mr. Charles o'r cerbyd, ac er bod encyd o riw serth i ddringo i'r capel, fe ddaeth atom i'r ysgol. Siaradodd ychydig wrth y plant, gan eu hanog i ddysgu, a bod yn blant da, yn ufudd i'w hathraw, ac yn barchus o hono. Yna gofynodd i mi fyn'd gydag ef. Ac wedi i ni gyraedd at y cerbyd, archodd i Mrs. Charles gerdded yr anifail ymlaen, ac y cerddai yntau am ychydig gyda mi. Dywedodd wrthyf fod yn dda ganddo weled cynifer o blant yn yr ysgol, fy mod yn cael cyfleusdra felly i hyfforddi llawer ymhen eu ffordd, ac i wneyd daioni amserol a thragwyddol iddynt. Anogodd fi i barhau yn ffyddlon gyda'r gwaith, ac os oedd y cyflog yn fychan, a'r drafferth a'r blinder yn fawr, y byddai gwobr helaeth i'm llafur gan yr Arglwydd.' Yna ychwanegai yr hen frawd,—

'Mr. Charles,' meddai, 'oedd y dyn goreu a welais i erioed. Dyma fyddai ganddo bob amser pan yn ymddiddan â mi, fy holi a fyddai trigolion yr ardal y byddwn yn cadw ysgol ynddi yn dyfod i foddion gras, ac i'r Ysgol Sabbothol, a fyddai y plant yn dyfod i'r ysgol ddyddiol, a wyddwn i am ryw gymydogaeth arall lle yr oedd y plant yn cael eu hesgeuluso, ac y byddai yn dda cynal ysgol yno—addysgu plant a phobl, a dwyn y wlad i wybodaeth y gwirionedd oedd y peth