Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tair punt oeddwn yn gael ar y cyntaf, ond i'r cyflog godi i bedair gwedi hyny. Fe fyddai yn rhyfeddu pa fodd yr oeddwn yn cael bwyd a dillad. Dywedwn wrtho fy mod yn ceisio byw yn bur gynil, a bod y bobl yn bur ffeind wrthyf, ambell un yn rhoddi i mi haner pwys o fenyn neu lai, ac eraill yn fy ngwahodd i'w tai i gymeryd pryd o fwyd. Byddwn yn dywedyd y buasai yn well genyf gadw ysgol am ddim pe byddwn yn gallu, na bod heb gadw ysgol, gan y pleser fyddwn yn gael yn y gwaith. Gofynai i mi o ba le y derbyniwn fy nghyflog, sef hyny oeddwn yn gael. Atebwn mai gan Mr. John Griffith, o'r Abermaw, a'i fod yntau yn eu cael oddiwrth Mr. Charles, a bod gan Mr. Charles ddeuddeg neu bymtheg o athrawon fel finau, a rhagor weithiau, o dan ei ofal. Yna holai y boneddwr o b'le yr oedd Mr. Charles yn cael yr arian. Atebwn inau fod ganddo amryw ffyrdd; bod y Methodistiaid yn Sir Feirionydd yn gwneyd casgliad unwaith y chwarter, ac yn gofyn ewyllys da o geiniog gan bob un; a bod rhai yn gyfoethog, ac yn cyfranu mwy na'r gofyn. Methai yntau ddeall pa fodd yr oedd hyn yn ddigon i wneyd i fyny fy nghyflog i a'r lleill. Dywedwn wrtho yn mhellach fod y Methodistiaid yn lliosog, a bod y naill geiniog at y llall yn dyfod yn llawer; fod Mr. Charles, oblegid ei fawr awydd am weled plant tlodion yn cael eu dysgu, yn cyfranu llawer ei hun; ei fod yn fynych yn myned i drefydd Lloegr, ac i Lundain, i gynal cyfarfodydd. mawr, lle y byddai boneddigion cyfoethog, fel y chwi, syr, yn bresenol, ac o'r cyfryw ysbryd i wneyd daioni âg ef ei hun; ei fod yn rhoddi achos Cymru, ac yn arbenig Sir Feirionydd, ger eu bronau, a byddent hwythau yn aml yn cyfranu yn haelionus i'w gynorthwyo yn ei amcan. Canmolai y boneddwr y gwaith yn fawr, a'r modd yr oedd yn cael ei gario ymlaen.

Fel prawf o'r hyn a ddywedir uchod, ac hefyd o'r hyn a grybwyllir mewn manau eraill, ceir ymysg ei bapyrau enwau