Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

personau a roddent iddo bwys o ymenyn, eraill haner pwys, &c., yn rhoddion fel ysgolfeistr yr ardal. Ceir yn ychwanegol. enwau personau a roddent lety iddo, ac yn eu plith dywed. iddo gael ymborth a llety am fis heb dalu dim gan Mr. Harri Jones, Nantymynach.

Yn ystod y flwyddyn 1812 bu yn cadw ysgol mewn tri man yn Mhlwyf Celynin, Meirionydd, o dan lywodraethiad ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan. Cyfarfyddir ag amryw lythyrau wedi eu hysgrifenu ganddo y flwyddyn hon, ac adroddiadau meithion am ansawdd yr ysgol o dan ei ofal, wedi eu cyfeirio oddiwrth "yr annheilyngaf a'r anfedrusaf o bawb," at "fy anwyl a'm hanrhydeddus ymddiriedolwyr," ac enwa Mr. D. Davies (Llanidloes), a Mr. Griffith a Mr. C. Lewis (Aberteifi), wrth eu henwau. Dywed un hen chwaer grefyddol, yr hon oedd yn fyw ddeng mlynedd ol, ei bod yn cofio Lewis William yn cadw ysgol yn Llwyngwril, a'i fod yn myned i Ysgol Sul yr Eglwys gyda'r person. Ac y mae dau lythyr ymysg papyrau Lewis William oddiwrth Thomas Jones, curad Celynin, at Drustees y Welsh Circulating Charity Schools, yn hysbysu fod Lewis William yn cymuno yn yr Eglwys, a bod yr ysgol yn llwyddo o dan ei ofal, ac hefyd fod yr holl blwyfolion yn dymuno i'r ysgol gael ei pharhau yn y plwyf. Ymddangosai y cyfeiriadau hyn yn annealladwy, hyd nes y daethpwyd o hyd i'r hyn a ganlyn ymysg papyrau Lewis William ei hun:—"Goddefodd Mr. Charles i Blwyf Celynin fy nghael i gadw ysgol Madam Bevan; ond ni chawn mo honi mwy onid awn i'r Deheudir i'w chadw, yr hyn nad oeddwn yn dewis, oherwydd yr oedd rhyw rwymau caethion yn perthyn iddi, y rhai nad oeddwn yn ewyllysio myned iddynt." Ceir hanes Lewis William yn holwyddori plant yn Eglwys Blwyfol Llwyngwril, ac yn eu cynghori yn gyhoeddus yno tra bu mewn cysylltiad ag Ysgolion Madam Bevan. Arbenigrwydd yr holl ysgolion dyddiol y bu ef yn eu cadw, o ardal i