Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddygiad hynod o eiddo yr hen bererin, Lewis William, y tro olaf y bu yn pregethu yn Mryncrug. Yr oedd yn ei hen ddyddiau, a bron wedi llwyr golli ei olwg. Ymddangosai yn hynod o anfoddlawn i ymadael o'r capel ar ddiwedd y gwasanaeth nos Sul. Cerddai yn ol a blaen, a'i ben i lawr, ar draws y capel o flaen y pulpud. Wedi dyfod i'r drws i gychwyn tua Gwyddelfynydd, troes yn ol drachefn a'i wyneb i'r capel unwaith eto, a dywedai, "Ffarwel i ti, yr hen gapel, am byth; gwelais lawer o Dduw ynot ti erioed!"

Cylch y bu ef yn ddefnyddiol iawn ynddo ar hyd ei oes ydoedd gyda'r Ysgol Sabbothol. Gwnaeth Mr. Charles ddefnydd mawr o'r ysgolfeistriaid i blanu Ysgolion Sul yn yr holl ardaloedd, ac i adgyfodi rhai trancedig. Nid oes gan yr oes hon ond ychydig o amgyffred am yr anhawsderau a gafodd y tadau i sefydlu yr Ysgolion Sabbothol, a'u cario ymlaen ar ol eu sefydlu. Am yr ugain mlynedd cyntaf, a mwy, wedi rhoddi cychwyniad iddi mewn llawer ardal a thref, elai i lawr yn llwyr drachefn. Ac yn y rhan yma o Feirionydd, Lewis William fu y prif offeryn i ail gychwyn Ysgolion Sul trancedig. Nid oes unlle wedi bod yn fwy pleidiol i'r Ysgol Sul na thref Dolgellau. Magodd hi ddynion glewion ar faes y rhan hon o winllan yr Arglwydd. Ond bu hi farw yn y dechreu, hyd yn nod yn Nolgellau, a Lewis William a'i hadgyfododd yno. "Sefydlasid hi gyntaf yma," ebe y diweddar Mr. R. Oliver Rees, "gan ysgolfeistr blaenorol, John Ellis (o'r Abermaw), ond profasai gwrthwynebiad cryf swyddogion ac aelodau yr 'Hen Gapel' iddo gadw ysgol ar ddydd yr Arglwydd yn angeuol iddi. Ail sefydlodd Lewis William Ysgol Sabbothol pan y daeth yma i gadw ysgol ddyddiol yn 1802, a hyny yn ngwyneb gwg y swyddogion oll ond un. Arferid cynal y moddion Sabbothol cyntaf am 9 o'r yn y boreu. Cynhaliai yntau yr ysgol am 6 o'r gloch yn y boreu. Cyn hir, symudodd y gwrthwynebwyr y society i'r awr