Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

foreuol hon Symudodd yntau yr ysgol i'r awr foreuol of 4 o'r gloch! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau boreuol hyn. Plant gan mwyaf oedd ei ysgolheigion ar y cyntaf. Tra yr oedd ef yn 'flin arno yn rhwyfo' yn erbyn y croeswyntoedd hyn, deuai ei noddwr ffyddlawn, Mr. Charles, yma i gyhoeddiad Sabboth. Wedi deall helbulon ei hoff sefydliad, dadleuai drosti gyda'i holl sel a'i ddoethineb, ac, yn erbyn teimlad y penaethiaid gwrthwynebol, mynodd le i'r ysgol am 9 o'r gloch yn y boreu fel un o foddion rheolaidd y dydd. sanctaidd." Un engraifft ydyw hon o lawer o rai cyffelyb a gyfarfyddodd yn ei hynt fel ysgolfeistr cylchynol, hyd y flwyddyn 1815, neu ddiweddarach. Ond, fel ei noddwr o'r Bala, ni ildiai ac ni ddigalonai efe nes gorchfygu.

Am y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'r ganrif bresenol, yr oedd dynion cymwys i arwain ac i gadw cyfrifon yn yr eglwysi yn hynod o brinion, ac felly gwnaed defnydd helaeth o wasanaeth Lewis William yn y gwahanol eglwysi. A byddai ef yn flaenor yn blaenori ymhob lle dros y tymor yr arosai gyda'r ysgol. O ganlyniad, cadwodd lawer o fân ddalenau yn cynwys penderfyniadau a chyfrifon, derbyniadau a thaliadau, yn dal cysylltiad â gwahanol ardaloedd. Gwnaeth lawer o wasanaeth hefyd fel llyfrwerthwr a dosbarthwr llyfrau. Efe oedd y llyfrwerthwr cyntaf o bwys yn y parthau hyn, ar raddfa fechan, mae'n wir; eto gwnaeth wasanaeth da fel hyn. am haner can' mlynedd.

Yn 1819, tra yn aros yn Nolgellau, priododd; a bu Ann Williams yn wraig gymwys iawn iddo,—gynil, ddiwyd, ddarbodus, ac yn gwbl o gyffelyb feddwl i'w phriod hynod. Yn 1824 symudodd i Lanfachreth, i fod yn arosol yno bellach. Aeth yno y tro hwn i gadw ty capel ar gais y brodyr. "Trwy fod rhai cyfeillion," ebe ef ei hun, "yn gofyn a ddeuwn, darfu i mi a'm hanwyl wraig gydsynio i fyned; ac i mi gadw ysgol ddyddiol, a chymeryd tâl gymaint a geid am ddysgu y