Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plant, a byw ar hyny os gallem. Aethom yno y flwyddyn gyntaf ar yr amod i dalu zp. o rent am y ty, a chael y capel i gadw ysgol, a 4c. y pryd am fwyd pregethwyr. Gwnaethom gyfrif ymhen y flwyddyn, ac yr oedd hyn yn dyfod yn 2p. 8s., er nad oedd ond 4c. y pryd, oblegid yr oedd yr amser hwnw lawer o bregethwyr yn teithio. Darfu i ni lwfio yr wyth swllt, a dywedyd y cymerem ni y ty am fwyd y pregethwyr. Buom felly am dros 20 mlynedd." Ymhen ychydig, modd bynag, gwelodd y ddeuddyn diwyd nad allent ddim byw ar yr hyn a dderbynient fel hyn, a dechreuasant gadw siop.

Yn eu masnach gymharol gyfyng, buont ill dau yn onest, cyfiawn, ac unplyg. Treuliasant 38 mlynedd yn Llanfachreth, a'r Arglwydd yn bendithio eu trigle, a'r hyn oll yr ymgymerodd eu dwylaw i'w wneuthur.

Daeth Lewis William yn bregethwr heb yn wybod iddo ei hun. Can belled ag y gallai gofio, yn 1807 y dechreuodd bregethu, ac yn 1815 derbyniwyd ef gan Gyfarfod Misol Sir Feirionydd yn bregethwr rheolaidd. Cyfrifid ef o ran ei ddoniau pregethwrol y lleiaf o'r llwythau, a chyfrifai yntau ei hun felly. Os byddai eisieu gwybod maint cymhariaethol unrhyw un o'r gweision lleiaf, dywedid, "Y mae can lleied pregethwr a Lewis William, Llanfachreth." Eto i gyd, trwy ei zel a'i ffyddlondeb anghymarol, gwnaeth fel pregethwr fwy o ddaioni na llawer un mawr ei ddoniau, o herwydd gwresogrwydd ei ysbryd a'i awyddfryd angerddol i wasanaethu Crist a dynion. Bu bob amser yn gymeradwy gan y bobl. Y mae engreifftiau nid ychydig i'w cael lle y bu trwy bregethu yn foddion i enill eneidiau i Grist. Cofia rhai o frodyr hynaf Ffestiniog am dano yn pregethu am ddau a chwech yn Nhanygrisiau ar Sabboth heb fod ymhell o 1850. Yn y prydnawn, methai a chael gafael ar ddim i'w ddweyd wrth y gynulleidfa, ond ail-adroddai ei destyn drachefn a thrachefn, gan wenu yn siriol uwch ei ben, a dywedai wrth y bobl, "Pe gwelech chwi