Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pethau yr wyf fi yn eu gweled yn yr adnod hon, fe fyddech chwithau hefyd yn gwenu." Ond yn odfa yr hwyr cafodd. rwyddineb anarferol, ac yr oedd ei bregeth yn neillduol of rymus. Daeth nifer mawr i'r seiat mewn canlyniad i'r bregeth hono, a throes amryw o'r dychweledigion allan yn ddynion. defnyddiol gyda chrefydd.

Ceir ymysg ei ysgrifau gopïau o lythyrau a anfonid ganddo at y Cyfarfod Misol, yn ol fel byddai yr arfer y blynyddoedd. hyny, yn rhoddi hysbysrwydd i'r brodyr yn gyhoeddus am ei Sabbothau am y mis dilynol—pa rai fyddent yn llawn a pha rai fyddent yn wàg. Gwnelai pob pregethwr a berthynai i'r Cyfarfod Misol yr un fath. Er gweled dull y tadau o gario. yr achos ymlaen cymerer y ddwy engraifft ganlynol:— "Dolgellau, Mehefin 26, 1822.—At Gymedrolwr Cyfarfod Misol Maentwrog.—Hyn sydd yn ateb i'ch ymofyniad o hanes fy Sabbothau y mis nesaf:—Gorph. 7, Penrhyn—(seiat nos Sadwrn); 14, Heb addo; 21, Heb addo; 28, Dovey 9, Capel —2, Egryn Nos. Hyn oddiwrth eich ufudd was, LEWIS WILLIAM."

"Dolgellau, Gorphenaf 23, 1822.—At Gymedrolwr Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, yn Harlech. Hyn sydd yn ateb i'ch ymofyniad o fy hanes mewn perthynas i Sabbothau y mis canlynol:—Awst 4, Neuadd—ddu 9 (seiat nos Sadwrn), Capel Gwyn 2, Maentwrog nos; 11, Cwrt 9, Fawnog 2, Corris 6; 18, Heb addo; 25, Towyn 9, Capel 2, Egryn nos. Hyn sydd oddiwrth eich ufudd was, LEWIS WILLIAM."

Dyma arfer y tadau. Beth feddylia y Cyfarfodydd Misol, yn yr oes hon o roddi a derbyn cyhoeddiadau am saith mlynedd ymlaen llaw, o ddull y tadau o'u trefnu am fis yn unig?

Dyma ran fawr o waith Cyfarfod Misol yn y blynyddau gynt. Cwt fel y mae i lawr yma ydyw Abergynolwyn yn awr. Fawnog ydyw Ystradgwyn. Neuadd—ddu sydd enw ar anedd-dy adnabyddus yn Mlaenau Ffestiniog. Yn y ty hwn y cyn-