Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

helid moddion crefyddol yn yr oll o Flaenau Ffestiniog hyd y flwyddyn 1826. Capel Gwyn oedd enw y capel yn Llan Ffestiniog y pryd hwn. A dyma yr unig daith Sabboth oedd yn yr oll o blwyf Ffestiniog a phlwyf Maentwrog gyda'u gilydd.

Bu Lewis William farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Gosodwyd cofgolofn ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol gan Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau, ac, fel y gweddai iddi fod, y hi yw y gofgolofn uchaf yn Mynwent Ymneillduol Llanfachreth. Dyma eiriau olaf yr hen bererin, a sibrydodd efe yn nghlust Mr. R. O. Rees, tra yr ymwelai âg ef ar foreu Sul, ar ei ffordd i'r Cyfarfod Ysgolion:—"Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd. Dywedwch wrthyn nhw mai fy erfyniad olaf am byth atynt ydyw—am i bawb weithio eu goreu gyda yr Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell, o Grist fel talwr. Dyma fi—'rydw' i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn, fel y gallwn i, yn Ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd—y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i. Byddai'n rhoi rhyw deimlad i mi yn y fan y mod i yn ei blesio fo. 'Dallsai o byth roi tâl gwell gen' i gael na hyny. Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben, 'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi. Beth bynag sy' geno i'w roi i mi eto, yn y byd mawr yr ydw i'n myn'd iddo—gras! gras! gras! gras!" Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i mi, ond clywid ef yn sibrwd ymlaen ynddo ei hun, "Gras! gras! gras!"

Y cyfryw ydoedd un o ysgolfeistriaid mwyaf diwyd a ffyddlonaf Mr. Charles, y Bala.






ARGRAFFWYD GAN E W. EVANS, SMITHFIELD LANE, DOLGELLAU.