boneddigesau, ac oddiwrth rai personau yn Nghymru. Yn y Drysorfa Ysbrydol am Hydref, 1800, y mae Mr. Charles yn cydnabod derbyniad y swm o £470, sef arian wedi eu gadael mewn ewyllys gan D. Ellis, yn mhlwyf Helygen, Sir Fflint, tuag at yr amcan hwn. Yr oedd Mr. Charles ei hun hefyd yn cyfranu yn haelionus tuag at gynal yr ysgolion. Dywed ei fod yn rhoddi yr oll a dderbyniai oddiwrth ei wasanaeth ynglŷn a'r achos yn y Bala tuag at eu cario ymlaen, tra yr oedd yn cael ei gynal ei hun trwy ddiwydrwydd ei wraig, yr hon a arolygai orchwylion y siop a'r fasnach a gedwid ganddi. Nid ychydig oedd yr anhawsderau a'i cyfarfyddai yn yr ystyr yma, oblegid wedi iddo fwrw ei goelbren ymysg y Methodistiaid, pobl dlodion oedd y rhai hyny fel rheol, ac o ganlyniad yn ofer y dysgwyliai am fawr o help arianol oddiwrthynt hwy. Yr oedd yn wahanol gyda Mr. Griffith Jones, Llanddowror, yn ei ymdrech i sefydlu ei Ysgolion Cylchynol ef, driugain mlynedd yn flaenorol. Yr oedd ef yn aelod o'r Eglwys Sefydledig, i'r hon y perthynai, mewn enw o leiaf, fawrion y tir, ac yn yr hon yr oedd cyfoeth y wlad. Heblaw hyny, gorfu i Mr. Charles wynebu erledigaeth lawer, nid yn unig oddiwrth bobl anwybodus, ond oddiwrth yr Eglwys ei hun, a'r clerigwyr, ac uchelwyr ei wlad. Nid oedd ganddo ond troi ei wyneb at gyfoethogion crefyddol y tu allan i Gymru. Ac fe ddarfu llawer yn ewyllysgar ei gynorthwyo â'u rhoddion gwirfoddol, heb yr hyn nis gallasai gario ymlaen ei gynllun. Deuai y rhoddion weithiau trwy iddo apelio am danynt, pryd arall deuent heb eu ceisio, gan i'r son am y daioni a wnaethid trwy yr Ysgolion gyraedd clustiau cyfoethogion, trwy gylchoedd eang. Y mae llythyrau ar gael oddiwrth ei gynorthwywyr yn yr achos hwn ato ef, ac oddiwrtho yntau atynt hwythau. Y mae llythyr oddiwrtho i'w weled yn yr Evangelical Magazine, tua deuddeng mlynedd wedi iddo ddechreu ar y gorchwyl hwn yn diolch yn gyhoeddus i foneddwr a alwai ei hun G. T. G.,
Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/17
Gwedd