am ei rodd haelionus o £50 tuag at gynal a thaenu yr Ysgolion Rhad Cymreig. Ac yn yr un llythyr efe a ddywed:—"Y mae yr Arglwydd wedi gwneuthur llawer erddom, ond y mae arnom eisieu, ac yr ydym yn taer erfyn am y fendith yn barhaol." Tuag ugain mlynedd yn ol, pan yr oedd ymdrechion neillduol yn cael eu gwneuthur i sefydlu yr Achosion Seisnig yn Nghymru, dygai y diweddar Barchedig Ddoctor Edwards, o'r Bala, y ffaith fod y Cymry yn ddyledwyr i'r Saeson, ymlaen fel un o'r rhesymau cryfion dros i ni fod yn bleidiol i'r Achosion hyn. Darfu i lawer o'r Saeson anfon eu rhoddion i Gymru i gynorthwyo Mr. Charles i gynal ysgolion, er goleuo a dysgu tlodion y wlad, ac i godi y wlad o dywyllwch ofergoeliaeth a phaganiaeth. Trwy eu haelioni hwy a llafur egnïol y tadau, o dan fendith yr Arglwydd, yr ydym ni, er's llawer o amser, yn mwynhau rhagorfreintiau crefyddol mor fawr. Onid oes yma le rhesymol a chryf, pe na buasai dim arall, dros i ninau gynorthwyo y Saeson i gael manteision crefyddol yn ein gwlad yn yr oes hon?
Bu llafur Mr. Charles gyda'r Ysgolion Dyddiol Cylchynol yn fawr iawn. Arno ef yr oedd y gofal i chwilio am athrawon, eu symud o fan i fan yn yr amser priodol, arolygu yr ysgolion, holwyddori y plant, dysgu llawer o'r athrawon ei hun, chwilio am foddion eu cynhaliaeth, talu cyflogau i'r athrawon, cario ymlaen ohebiaeth â'r gwahanol ardaloedd, ac â'r rhai a'i cynorthwyent yn y gwaith. Ei amcan cyntaf oedd am i'r athrawon fod o gymeriad pur, duwiol ac ymroddgar. A chytuna pawb fod ei graffder yn hynyma yn nodedig, gan i lawer o'r dynion a gyflogodd fel athrawon, fel y ceir gweled yn mhellach ymlaen, droi allan yn ddefnyddiol ac enwog gyda chrefydd. Ar y cyntaf £8 oedd y cyflog a roddai i'r athrawon; wedi hyny daeth angenrheidrwydd ei godi i 12 a 15 y flwyddyn. Dynion o amgylchiadau isel oeddynt o ran moddion, ac yr oedd hyny yn gymhwysder neillduol ar gyfer y