lleoedd yr elent iddynt, a'r cyflog a dderbynient. Byddent yn cael eu llety a'u hymborth yn fynych yn rhad, a chan amlaf am ddim. Ychydig amser yn ol yr oedd rhai personau yn Sir Feirionydd yn cofio y byddent yn cael eu cadw, o ran bwyd a llety, yn y ty hwn am fis, ac yn y ty arall am fis drachefn; ac elent yn eu tro i'r gwahanol ffermdai, heb dalu dim tra yr arosent mewn ardal. Cymraeg yn unig a ddysgid yn yr Ysgolion, ac yr oedd y llyfrau yn gwbl o natur elfenol a chrefyddol—llyfrau Griffith Jones, Llanddowror, hyd nes y cyhoeddodd Mr. Charles ei lyfrau ei hun. Cynelid ysgolion nos hefyd yn yr wythnos, er mwyn i'r rhai mewn oed, nas gallent adael eu gorchwylion y dydd, gael y fantais o ddysgu darllen. A thrwy gynorthwy yr ysgolion dyddiol a'r ysgolion nos y cychwynid ac y cynelid Ysgolion Sabbothol ymhob cymydogaeth. Tri, chwech, neu naw mis yn unig yr arosai yr ysgolfeistr mewn ardal, ac yna symudid ef i ardal arall; ac oddiwrth hyn y cafodd yr ysgolion eu galw yn Ysgolion Cylchynol.
Cynyddodd yr Ysgolion, fel y crybwyllwyd, o un i ugain o nifer. Bu eu cynydd mor gyflym, a'r llwyddiant a'u dilynodd mor fawr, nes peri syndod a llawenydd annhraethol i'w sylfaenydd enwog ei hun. Efe a ysgrifena, ymhen y deuddeng mlynedd ar ol eu cychwyniad, yn y geiriau canlynol:— "Y maent wedi llwyddo tuhwnt i'm disgwyliad; y galwad am ysgolfeistriaid a fawr amlhaodd; ac y mae cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y bu yr Ysgolion yn eu plith. Yn raddol fe gynyddodd nifer y dysgawdwyr hyd yn ugain. Gosodais Ysgolion Sabbothol ac ysgolion y nos ar droed, er mwyn y rhai yr oedd eu gorchwylion a'u tlodi yn eu hatal rhag dyfod i ysgolion y dydd. Pa ymgais bynag o'r natur hwn a wnaethom, fe lwyddodd yn rhyfedd, nes llenwi y wlad o ysgolion o ryw fath neu gilydd, ac yr oedd pawb yn cael eu dysgu ar unwaith. Yr effeithiau daionus oeddynt yn gyfatebol; difrifwch cyffredinol ynghylch pethau tragwyddol a gymerodd