le mewn aml ardal helaeth; llawer o ganoedd a gawsant eu deffroi i deimlo eu pechod a'u heisieu o Grist; ac y mae genyf bob rheswm i goelio eu bod heddyw yn ddilynwyr ffyddlon iddo." Gellir yn hawdd gredu na fu cymaint o lwyddiant ar ddim symudiad daionus o eiddo y Cyfundeb, yn ystod y 150 o flynyddoedd ei hanes, na'r hyn a ddilynodd yr Ysgolion Cylchynol hyn, oddieithr y llwyddiant a ddilynodd ymdrechion Harries a Rowlands, ar doriad allan cyntaf y Diwygiad. Dywed y Dr. Lewis Edwards am Mr. Charles yn y cysylltiad hwn, "Pe na buasai wedi gwneyd dim ond a wnaeth gyda'r Ysgolion Dyddiol, buasai hyn yn unig yn gymaint ag a wnaeth rhai yr ysgrifenwyd cyfrolau am danynt yn Lloegr."
Ymhen ychydig gydag ugain mlynedd pallodd y cynorthwyon a ddeuent o Loegr tuag at gynaliaeth yr Ysgolion Cylchynol. Y mae dau beth a roddant gyfrif am hyny. Yn un peth, wedi sefydlu Ysgolion Sabbothol mor gyffredinol trwy bob rhan o'r wlad, coleddid y dybiaeth nad oedd angen mwyach am yr Ysgolion Dyddiol. Peth arall ydoedd, ddarfod i'r ffaith fod casgliadau mor helaeth wedi dyfod o Gymru i Lundain tuag at y Feibl Gymdeithas, y blynyddoedd cyntaf ar ol ei sefydliad, beri i'r Saeson gredu nad oedd ar bobl a allent gasglu cymaint o arian eu hunain, ddim angen am help. Am yr ymresymiad olaf, fe ddywed Mr. Charles wrth ei ohebwyr mai peth eithriadol oedd casgliadau y Cymry y pryd hwn- Yr oedd yn eithaf rhesymol iddynt deimlo yn gynes tuag at Gymdeithas a ddaeth â chyflawnder o Feiblau i'w gwlad. Ac am y cyntaf dywed, er nad oedd yr angen am Ysgolion Dydd- iol yn gymaint ag yn y dechreu, eto fod ganddo o chwech i ddeg o athrawon yn y flwyddyn 1808, ac nad oedd yn ei law y flwyddyn hono haner digon o arian tuag at ddwyn eu traul. Ychwanega hefyd fod amryw fanau tywyll, mewn parthau gwledig, hyd y pryd hwnw, ac mai yr unig feddyginiaeth ar eu cyfer oedd yr ysgolion dyddiol. Heblaw hyny, yr oedd ef ei