hun yn argyhoeddedig fod angen anfon yr ysgolfeistriaid drachefn a thrachefn trwy y parthau yr oeddynt wedi bod ynddynt, er mwyn ail—enyn sel a ffyddlondeb gyda'r gwaith oedd wedi ei ddechreu. Parhaodd i gredu hyd ddiwedd ei oes fod addysg ddyddiol yn gystal ag addysg Sabbothol yn hanfodol angenrheidiol i gynydd gwareiddiad a llwyddiant yr efengyl; a pharhaodd yr ysgolion a gychwynwyd ganddo ef i gael eu cario ymlaen, mewn rhyw wedd neu gilydd, hyd ddiwedd ei oes, ac ymhell wedi iddo ef fyned i orphwys oddi— wrth ei lafur.
Oddeutu adeg Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn 1885, daethpwyd o hyd i sypyn mawr o hen ysgrifau un o'r rhai ffyddlonaf o ysgolfeistriaid Mr. Charles, sef Lewis William, Llanfachreth, ac yn yr hen ysgrifau ceir llawer o gyfeiriadau at yr Ysgolion Cylchynol, ac at yr hyn a ddywed eu sylfaenydd enwog ei hun am danynt. Yn y dosbarth o Orllewin Meir— ionydd, rhwng afon Abermaw ac Afon Dyfi, lle y treuliodd Lewis William lawer o'i amser fel ysgolfeistr, ymddengys y byddai y gwahanol ardaloedd yn cynorthwyo eu gilydd i gynal ysgol y cylch, pan y pallodd y cymorth oddiwrth y cyfeillion elusengar o Loegr. Profa yr hen ysgrifau wirionedd y cyfeiriadau a geir yn llythyrau Mr. Charles, y rhai a ysgrifenodd tua'r flwyddyn 1808. Dyma y cofnodiad yn un o'r ysgrifau:—
"Coffadwriaeth am yr hyn a dderbyniwyd at gynal yr ysgol yn y flwyddyn
1808:— Bryncrug, £2 8s.; John Jones (Penyparc), 1 1s.; Dyfi, £2 10s. 6c.; Pennal, £2 6s. 9c.; John Morris (Pennal), 6s.; Corris, 10s. 6c.; Cwrt, £1 1s.; Towyn, 10s. 6c.; Llwyngwril 10s.; Mr. Vaughan (Bwlch), £1 1s. = £12 11s 3c."
Yr oedd teimlad yr eglwysi wedi ei enill erbyn hyn o blaid yr ysgol ddyddiol. Gwneid y casgliad tuag ati yn chwarterol, weithiau yn gyhoeddus yn y gynulleidfa, dro arall trwy fyned o amgylch yr ardal i gasglu. Weithiau gosodid yn ngofal y personau a benodid i gasglu, i gymell pawb i ddyfod i'r