Llanegryn. 2. Rhoisant alwad unfrydol am yr ysgol. 3. Penderfynwyd am roddi i'r athraw £4 y chwarter am ddysgu Cymraeg heb derfyn i'r rhifedi; ac i'r athraw gael rhydaid i gymeryd cymaint ag 20 i ddysgu Saesneg (os bydd galw), ac i gyfarwyddwyr yr ysgolion gael haner y pris oddiwrth y rhieni fel y cynygiasoch, ac i'r athraw gael yr haner arall. 4. Tynwyd lots pa rai o'r ysgolion a drefna Rhagluniaeth gyntaf i gael yr ysgol; a daeth y lot (1) i Dowyn, (2) Dyfi, (3) Bwlch, (4) Pennal. 5. Barnwyd y dylid casglu cyflog chwech wythnos cyn dyfodiad yr athraw i bob lle. "D. S.—Fod yr ysgol i fod chwarter ymhob lle, ac i ryw berson neu bersonau ymrwymo i'r athraw dros y rhai Cymraeg am ei gyflog, ac felly fod pob lle megys ar ei ben ei hun.—Oddiwrth eich annheilwng frawd,
JNO, JONES, Ysg. y Cylch."
Daw y tro, yn ol llaw, i roddi yn fwy uniongyrchol hanes rhai o'r Ysgolfeistriaid.