Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydyw hyn. Heblaw hyny, y mae amryw grybwyllion i'w cael, wedi disgyn o enau y rhai oeddynt yn byw yn yr oes hono, yn dwyn i'r amlwg yr unrhyw wirionedd. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai Lewis William, Llanfachreth, un o'r ysgolfeistriaid, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth (ger Dolgellau), o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos am fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn.) Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da Preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles."

Eraill hefyd, heblaw athrawon yr Ysgolion Cylchynol, a deimlent hoffder mawr tuag at Mr. Charles, ac ymlyniad dwfn wrtho, ar gyfrif ei ledneisrwydd, a'r gefnogaeth wresog a roddai i bawb fyddent yn amcanu gwneuthur daioni. Nid oedd Lewis Morris, Coedygweddill, yn ysgolfeistr. Ond efe oedd un o'r ddau bregethwr cyntaf gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd. Cafodd dröedigaeth amlwg ac uniongyrchol wrth wrando canu ar ddiwedd odfa gan y Parch. Dafydd Morris, Sir Aberteifi, mewn ty annedd, yn Heol y Maengwyn, Machynlleth, yn mis Awst, 1789. Wedi myned