Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ataf, fel y byddai i'w ysgol fod, mewn ystyr, o dan fy arolygiaeth wastadol." Cynyddodd nifer yr Ysgolfeistriaid o un i 20. Eu cyflog ar y cyntaf oedd £8 yn y flwyddyn; wedi hyny amrywiai o £12 i 15. Tybir y byddai Mr. Charles yn talu iddynt oll yn flynyddol oddeutu £200, a disgynai arno ef ei hun i gasglu y swm hwn tuag at dreuliau yr Ysgolion Rhad Cylchynol.

Oddeutu deng mlynedd ar hugain y bu Mr. Charles yn arolygu ac yn gofalu am yr ysgolion, ac y mae tystiolaethau ei lythyrau ef at ei ohebwyr, a'i ohebwyr ato yntau, yn profi nas gellir dangos maint eu dylanwad, na rhoddi pris ar y daioni a ddaeth i Ogledd Cymru trwyddynt. Peth amlwg yn eu hanes ydyw fod undeb a chydweithrediad a chyfeillgarwch arbenig yn bodoli rhwng yr Ysgolfeistriaid a'r gwr parchedig oedd wedi eu cyflogi i'r gwaith. Byddai ef bob amser yn amcanu i gyflogi dynion i fod yn athrawon o egwyddorion pur, cywir eu buchedd, yn meddu duwioldeb personol, ac yn llawn sel ac awydd i wneuthur daioni, pe na buasai ynddynt ddim cymhwysderau ond hyn. Ac ar ol amryw flynyddoedd o brofiad gyda dygiad ymlaen yr Ysgolion efe a ddywed, "Y mae fy ngofal wedi ei ad-dalu yn dra helaeth, canys y mae yr athrawon mor awyddus ag ydwyf fi fy hunan am i'r gwaith lwyddo, ac y mae hapusrwydd tragwyddol y rhai a ddysgir ganddynt yn cael y lle mwyaf dyfal yn eu meddyliau." Y cyfryw ydyw tystiolaeth Mr. Charles am yr ysgolfeistriaid ffyddlawn a gyflogid ganddo, a'r rhai oeddynt yn cydweithio gydag ef i addysgu ardaloedd tywyll Gogledd Cymru, gan' mlynedd yn ol. Yr oedd yr Ysgolfeistriaid, o'r tu arall, yn ei barchu yntau â pharch dau-ddyblyg. Ac y mae yn bur sicr ddarfod i'w addfwynder ef, a'i sel diball i wneuthur daioni i'w genedl, gynyrchu llawer o'r cyffelyb ysbryd yn y dynion distadl, crefyddol, oeddynt yn ei wasanaeth. Peth y gallesid gasglu yn naturiol oddiwrth ei hanes a'i foneddigeiddrwydd Cristionogol