Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mor y De; John Hughes, Pontrobert; Thomas Davies, Llanwyddelen; John Ellis, Abermaw; Robert Roberts, Clynnog; Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Robert Evans, Llanidloes; Daniel Evans, Harlech; Thomas Owen, Wyddgrug; Mri. David Roberts, o Fangor; John Jones, Penyparc. Meirionydd. Dyna yr oll a enwir gan Dr Thomas. Ond efe a ychwanega, "Nid ydwyf, ar hyn o bryd, yn gallu cofio am neb arall; ond y mae yn ddiamheu fod lliaws heblaw y rhai a nodwyd." Yn ychwanegol at y rhai uchod, fe fu Hugh Evans, o'r Sarnau, gerllaw y Bala; a William Pugh, Llechwedd, Llanfihangel-y-Pennant, yn Meirionydd, yn ysgolfeistriaid cyflogedig. Ychwanegir hefyd enwau Robert Morgan a Dafydd Rhisiart, a fu yn ysgolfeistriaid yn Nghorris; ac un o'r enw William Owen, o Abergynolwyn. Ond ofer, fel y crybwyllwyd, ydyw ceisio cael rhestr gyflawn o honynt. Nid yw yn debyg fod neb o'r rhai a geir yn y rhestr uchod ymhlith yr ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd. Yr oedd y rhai hyny, yn ol pob tebygolrwydd, yn y Bala, neu yn rhywle yn agos i'r Bala. Buasai yn beth dyddorol iawn i wybod pwy oedd y cyntaf un a osodwyd yn y gwaith. Tra thebyg mai un o'r Bala, neu o'r gymydogaeth, ydoedd hwnw, oblegid Mr. Charles ei hun a'i dysgodd ef i fod yn ysgolfeistr, ac ychwaneg hefyd na hwnw—"rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf bu raid i mi fy hun eu dysgu; hwythau, wedi hyny, a fuont yn ddysgawdwyr i eraill a anfonais atynt i fod yn ysgolfeistriaid."—(Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, tu dal. 168.) Cyfododd amryw bregethwyr yn y Bala a'r cymydogaethau yn y cyfnod hwn, a diamheu i rai o'r cyfryw, os nad yr oll o honynt, fod dros ryw dymor o'u bywyd yn ysgolfeistriaid. Mr. Charles ei hun hefyd a ddywed am y cyntaf un a gyflogwyd ganddo, "Symudwyd yr anhawsder hwn," sef yr anhawsder i gael person cymwys yn ysgolfeistr, i gychwyn, "trwy i mi ddysgu dyn tlawd fy hun, a'i gyflogi ar y cyntaf i fod yn agos.