mawr a gynyrchwyd trwy fywyd a llafur Mr. Charles, ac a barodd ddylanwad mor fendithiol a pharhaol ar Fethodistiaeth Cymru.
Bellach, amcenir rhoddi ychydig o hanes rhai o'r ysgolfeistriaid mwyaf hynod. Y cyntaf ar y rhestr a enwir gan Dr. Thomas, yn ei anerchiad i'r Gynhadledd yn y Bala, ydyw,—
Y PARCH. JOHN DAVIES, O SIR DRE FALDWYN.
Efe oedd y Cenhadwr Cymreig cyntaf. Aeth allan yn y flwyddyn 1800 i Ynysoedd Mor y De, a bu yno am oes faith yn gwneuthur gwasanaeth mawr. Ychydig o wybodaeth sydd am dano yn Nghymru, yr hyn sydd yn beth rhyfedd, gan ystyried yr enwogrwydd y daeth iddo, a'r gwasanaeth mawr a wnaeth fel cenhadwr. Yr hanes helaethaf o lawer a welsom am dano ydyw, yr ysgrifau a ysgrifenwyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Newyddion Da, yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1892. Gan ei fod wedi cychwyn ei yrfa fel un o ysgolfeistriaid Mr. Charles, cymerir o'r ysgrifau crybwylledig yn benaf, y prif ddigwyddiadau yn hanes ei fywyd, er gwneuthur ei hanes gymaint a hyn yn fwy hysbys. Brodor ydoedd o ardal Pontrobert, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef Gorphenaf 11eg, 1772. Gwehydd oedd ei dad, ac mae yn debyg iddo yntau gael ei ddwyn i fyny yn yr un gelfyddyd. Yr oedd ei deulu yn grefyddol, a chafodd yntau y fantais fawr o ymgydnabyddu a phethau crefydd yn ieuanc. Un o'i gyfoedion ydoedd y Parch. John Hughes, Pontrobert. Parhaodd y ddau yn gyfeillion cywir am dros driugain mlynedd. Perthynai y ddau i'r un eglwys yn eu hieuenctyd, yn ardal Pontrobert. Yr oedd Ann Griffiths, yr emynyddes, yn aelod o'r un eglwys yr un adeg. Trwy ryw foddion, nad yw yn hysbys, cyflogodd Mr. Charles y ddau lanc ieuanc fel ysgolfeistriaid i'w Ysgolion Cylchynol. Ychydig o hanes John Davies yn y swydd hon sydd ar gael. Ond y mae sicrwydd ei fod yn cadw