ysgol yn Llanrhaiadr-yn-Mochnant, yn mis Medi, 1797, ac yn Llanwyddelen, yn mis Mai, 1800.
Yr oedd Mr. Charles yn bleidiwr selog i Gymdeithas Genhadol Llundain, yr hon a sefydlwyd oddeutu can' mlynedd yn ol, o'r cychwyn cyntaf. Ceir hysbysiad yn y Drysorfa Ysbrydol ei fod yn derbyn casgliadau oddiwrth eglwysi Cymru tuag at dreuliau y Gymdeithas yn y flwyddyn 1799. Oddeutu y pryd hwn yr oedd mewn gohebiaeth & Thrysorydd y Gymdeithas o berthynas i gael cenhadon o Gymru, ac mewn llythyr ato i'r perwyl hwn ceir y geiriau canlynol yn llythyr y gŵr yr oedd yn gohebu âg ef:-"Eich ymdrechion at gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellwch wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debyg o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon ymysg pobl anfoesedig." Mewn canlyniad i'r ohebiaeth hon y mae John Davies yn rhoddi i fyny yr ysgol yn Llanwyddelen, ac yn mis Mai, 1800, yn cychwyn fel cenhadwr i Ynysoedd Mor y De. Y Parch. Richard Jones, Llanfair, a ysgrifena, "Cofus genyf glywed fy mam yn dywedyd fod yno wylo mawr yn Llanwyddelen pan oedd ef yn ymadael." Yn mis Mai, 1800, cychwynodd y Royal Admiral, gan gludo 25 o genhadon, ac yn eu mysg y Parch. John Davies a'i briod, a glaniodd yn Ynys Tahiti, Gorphenaf 10, 1801. Bu ei briod byw yn yr Ynys un mlynedd ar ddeg, a bu yntau byw yno bedair blynedd ar ddeg a deugain. Wedi glanio yn yr ynys, ysgrifenodd y cenhadwr anturiaethus lythyrau adref at ei rieni, at deulu Ann Griffiths, yr Emynyddes, ac hyd ddiwedd ei oes at ei gyfaill mynwesol, y Parch. John Hughes, Pontrobert, llawer o'r rhai a ymddangosasant yn y Drysorfa.
Bu ef a'i gyd-genhadon yn llafurio yn Ynysoedd Mor y De, trwy anhawsderau a pheryglon dirif, am ddeg neu ddeuddeng mlynedd heb argoelion o odid i ddim llwyddiant. Yr oedd