Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dechreuodd John Hughes bregethu yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn neidio ac yn gorfoleddu yn moddion cyhoeddus y Cyfarfod Misol y cafodd ganiatad i bregethu. Cymerodd afael yn y geiriau, "Pa faint mwy y bydd i waed Crist," ac ail—adroddai drachefn a thrachefn yr ymadrodd, "Difai i Dduw!" "Difai i Dduw!" "Ni welodd Duw fai yn yr Aberth yma. Diolch iddo! Bendigedig !" Yn Llanidloes y pregethodd gyntaf ar ol cael caniatad, ar fore Sul. Dechreuai y gwasanaeth, fel yr arferid y pryd hwnw, am 9 o'r gloch, a phregethodd yntau nes yr oedd ar fin 11 o'r gloch. Pe gwnaethai un o'i sefyllfa ef hyny yn yr oes pregethau byrion hon, torasid ei ben ar unwaith, fel y torai Tomos Bartley benau ei gywion ceiliogod. Ond er gwneuthur hyny i John Hughes, yr oedd digon o grefydd a phenderfyniad ynddo i ddyfod yn fyw drachefn. Pe llwyddasai yr hen frodyr a geisient ei rwystro i bregethu yn eu hamcan, buasai un o brif golofnau yr achos mawr yn Sir Drefaldwyn wedi ei thaflu i lawr yn y cychwyn. Yr oedd John Hughes yn athrawiaethwr a duwinydd o radd uchel. Yr oedd yn nodedig o grefyddol ei ysbryd a diwyd i gyraedd gwybodaeth yn nechreu ei oes, ac felly y parhaodd hyd y diwedd. Trwy dlodi ac anhawsderau dirfawr daeth yn awdurdod ar bynciau Duwinyddol yn llysoedd y Cyfundeb. Clywsom, pan yn dra ieuanc, yr hanesyn canlynol am dano:—Yr oedd Mr. Charles mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarfon, yn ceisio galw i gof y gair Groeg am "lwyr brynu," ac er ceisio, methai a chael gafael ynddo. A dyma John Hughes mewn diwyg ac ymddangosiad Cymroaidd, a chyda llais croch, yn gwaeddi o ganol y dorf,— εξαγοράζω! Cyfododd hyny ef lawer o raddau yn nghyfrif yr hen dadau byth o hyny allan.

Yr hanes argraffedig helaethaf am dano ydyw yr Ysgrifau dyddorol a ysgrifenwyd ar hanes ei fywyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Traethodydd, 1890 ac 1891. Ei