Hunan-Gofiant ef ei hun, ac yn enwedig ei Ddydd-lyfr am 1816, y flwyddyn ddilynol i frwydr fawr Waterloo, blwyddyn o gyfyngder mawr yn y deyrnas, ydyw un o'r pethau llawnaf o ddyddordeb yn hanes crefydd Cymru y blynyddoedd hyny. Yr oedd ef yn un o'r engreifftiau goreu o oes y teithio, pan oedd teithio yn ei fan uwchaf. Ond er y teithio a'r llafurio, helbulus a fu bywyd yr hen bererin, oherwydd nad oedd ei enillion trwy y naill a'r llall yn ddigon i'w gadw ef a'i deulu uwchlaw angen. Y mae ei hanes am y rhan ddiweddaf o'i oes yn ddigon hysbys i grefyddwyr hynaf y wlad. Bu farw Awst y 3ydd, 1854. Yr Ail Gyfrol o Fethodistiaeth Cymru, yr hon a ysgrifenid ychydig cyn ei farw, a ddywed:—"Y mae yr hen frawd parchedig ar y maes gweinidogaethol er's 52 mlynedd, ac nid mynych y bu neb yn fwy ffyddlawn a diwyd, yn ei wlad ei hun, a thros yr holl Dywysogaeth."
Cofus genym glywed y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, yn gwneuthur y sylw, er calondid i ddyn ieuanc oedd yn lled ddiffygiol mewn dawn yn y cyhoedd "Nid oedd gan John Hughes, Pontrobert, ddim dawn. Yn naturiol yr oedd ei lais y mwyaf ansoniarus ac aflafar a glywsoch erioed; ond pan fyddai wedi ei wresogi gan y gwirionedd, byddai mor rymus a hyawdl nes cario pob peth o'i flaen."