Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhan hono o'r wlad; ac yn y cylchoedd y bu yn cael ei chadw atebodd ddiben daionus, gyda'r ysgol a'i weinidogaeth ymhob ardal. Ond nid hir y parhaodd yn y dull hwn, canys yr oedd ei iechyd yn rhy fregus i ymgynal yn y modd yma i gadw ysgol, ac i ufuddhau i alwad y brodyr yn ei weinidogaeth. Eithr fel yr oedd galwad yr eglwysi am ei weinidogaeth trwy holl Gymru yn ychwanegu, hyn, gyda chydsyniad y brodyr yn ei alwad, a'i tueddodd i ymroddi yn hollol i waith y weinidog- aeth, yn yr hon y llafuriodd yn ffyddlawn a diysgog hyd ddiwedd ei oes."

Ond er y dywedir mai trwy ewyllys da yr ardaloedd y cedwid yr ysgol, digon posibl mai Mr. Charles a roddai yr ardaloedd ar waith i'w chario ymlaen. Os felly, nid oes dim yn anghyson iddo gael ei restru yn y rhestr o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ac fe roddodd ef anrhydedd ar y swydd o athraw ysgol, yn gystal ag ar y swydd o bregethu yr efengyl. Mae yr amser y bu yn cadw yr ysgol yn cyfateb yn hollol i'r adeg yr oedd mwyaf o alwad am yr ysgolion. Dechreuodd bregethu yn 1787; oddeutu yr un adeg hefyd y dechreuodd gadw ysgol, a bu farw yn 1802, yn 40 mlwydd oed. Un o'r pethau mwyaf godidog yn hanes enwogion y Cyfundeb o'r dechreuad ydyw y darluniad a rydd y Parch. Dr. O. Thomas am y seraphbregethwr, Robert Roberts o Glynog, yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn.

Un o'r rhai y mae sicrwydd iddo fod ymysg Ysgolfeistriaid cyflogedig yr Ysgolion Cylchynol, a'r hwn, er iddo ddyfod yn ddylanwadol ac yn amlwg fel pregethwr, sydd yn llai adnabyddus yn yr oes hon nag amryw o'i gydoeswyr, ydoedd

Y PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.

Ganwyd ef yn Ysbytty, Sir Feirionydd, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref bychan Capel Garmon, mewn tlodi ac