oferedd, heb neb i ofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb fod ganddo yr un enaid. Dechreuodd ddysgu crefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Wrth wrando yn y dref hono ar un o'r enw Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth yn fawr arno, nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwnw am dymor yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Yr oedd hyn cyn bod yn Ffestiniog Ysgol Sul, na chapel, na phregethu, ond yn unig yn achlysurol. Aeth i wrando y pregethu achlysurol gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd ag ef drachefn, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad iddo amlygu tuedd i wrando y pregethu, ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato, a rhybuddiodd ef nad elai mwy i wrando ar y cyfryw bobl a'r Methodistiaid; ac oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog yn llanc ieuanc, heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanbrynmair, lle yr arosodd dros ysbaid saith mlynedd, gan weithio ei grefft fel cylchwr. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn Llanbrynmair, Hwyrach fod llygaid y llanc ieuanc oedd o dan argyhoeddiad, ar y lle oblegid hyny. Yr oedd eto mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar y Parch. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni i'w feddwl, a chyda'r goleuni y daeth tangnefedd. Ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ymhen y mis wedi cyrhaedd Llanbrynmair.
Bu cymdeithas y brodyr crefyddol yn y lle hwn o fendith annhraethol iddo, yn ystod y saith mlynedd hyn. Cafodd yr ymgeledd angenrheidiol i'w enaid, gwreiddiodd crefydd ynddo, a deallodd ffordd Duw yn fanylach. Tra yn aros yma priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys ag ef Symudodd o Lanbrynmair drachefn i'w hen gymydogaethau, Llanrwst a Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr