hanes, & Rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw Ysgol Rad Deithiol, o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder [tebygol mai geiriau Mr. Charles ei hun yw y rhai hyn] ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad."
Yr oedd yn Ffestiniog, erbyn hyn, un eglwys, ac un capel wedi ei adeiladu er's blwyddyn neu ddwy, yr hwn a elwir hyd heddyw yn hen gapel, er ei fod er's pedwar ugain ac un o flynyddau (1813) wed ei droi, yn dŷ anedd. Yr oedd y brodyr yno ac yn Nhrawsfynydd yn graff eu golwg, pan yn argymell y gwr hwn i sylw Mr. Charles. Troes John Ellis allan yn ysgolfeistr llwyddianus. Yr oedd ynddo y tri pheth yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid—duwioldeb personol, gallu i addysgu, a chymeriad disglaer, i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgolion. Nid oes wybodaeth sicr am yr amser yr ymsefydlodd yn Abermaw, na pha beth a'i harweiniodd yno, nac ychwaith am yr amser y dechreuodd bregethu. Yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles, ceir y sylwadau canlynol am dano: "Nid hir y bu wedi dechreu cadw yr ysgol heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y Gair, gan