Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn wr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn wr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad." Y mae hanesyn neu ddau yn Adgofion yr hen bregethwr, Lewis Morris, am dano ei hun, yn rhoddi ychydig o oleuni ar fywyd John Ellis a'i amserau, ynghyd a'r amser y daeth i fyw i'r Abermaw, ac y dechreuodd bregethu. Un hanesyn ydyw am fintai o erlidwyr, a Lewis Morris fel cawr yn arwain y fintai, i rwystro pregethu ar ddydd Sabboth yn Llwyngwril. "Ymysg y lliaws," ebe Lewis Morris, "yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu 'y pregethu newydd' â'm holl egni. Un prydnawn Sabboth daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid o le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum inau i'r pentref y Sabboth hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwag ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gwr i'r drws, a dywedais wrtho os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dŷ arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig." Digwyddodd yr amgylchiadau hyn yn y flwyddyn 1788, gant a chwech i'r flwyddyn eleni. Yr oedd John Ellis yn byw yn yr Abermaw yn y flwyddyn hono; ; yr oedd wedi dechreu pregethu, feallai, er's blwyddyn yn gynt. Yr ydym yn gweled, modd bynag, ei fod yn pregethu yn 1788; fe ddechreuodd bregethu cyn hir wedi iddo