ddechreu cadw yr ysgol; gan hyny, yr oedd John Ellis yn athraw cyflogedig ymysg rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd gan Mr. Charles.
Peth tra dyddorol arall a gofnodir gan Lewis Morris ydyw, yr hanes am dano ei hun yn myned i'r Ysgol. "Aethum y Calanmai canlynol at y dywededig John Ellis, o'r Abermaw, i Fryn-y-gath, Trawsfynydd, lle yr oedd ef y pryd hyny yn cadw ysgol ddyddiol; a bum yno dair wythnos; a dyna pryd y dysgais ddarllen fy Mibl." Yr oedd hyn o fewn llai na blwyddyn i'r adeg yr argyhoeddwyd ef, a llai na dwy flynedd i'r amser y buasai yn rhwystro yr hwn yr elai yn awr ato i'r ysgol i bregethu, ac efe ei hun y pryd hwn yn ddeng mlwydd ar hugain oed. Clywsom un o feibion Bryn-y-gath yn adrodd, amser yn ol, fel y clywsai ef ei fam, neu ei nain, yn rhoddi hanes Lewis Morris yn dyfod yno, o'r hyn yr oedd hi yn llygad-dyst. Adroddai am dano yn gwyro i lawr hyd ei haner wrth ddyfod i mewn trwy y drws, ac yn gwyro yr un fath wrth basio o dan swmer llofft y tŷ, ac yn cyfarch y teulu, gan ddywedyd, "Lewsyn, Coedygweddill, ydw' i (wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef cyn hyn ac yr hawg wedi hyn); 'rydw' i wedi dyfod yma i'r Ysgol at Siôn Ellis, ac yn dyfod atoch chwi i edrych a gaf fi lodgings." Dywedir nad oedd yn adnabod llythyrenau y wyddor pan yr aeth yno. Yr oedd rhai personau yn byw yn yr ardal yn lled ddiweddar oeddynt yn cofio gwraig, yr hon, yr adeg yr ydym yn cyfeirio ati, oedd yn eneth fechan, ac yn ferch i un o amaethwyr y gymydogaeth, a ddysgodd Lewis Morris i adnabod y llythyrenau, tra yr oedd yr athraw wrthi yn dysgu y plant eraill. Ac fe barhaodd tymor ei ysgol am dair wythnos! Ymhen ychydig wedi hyny, fe ddechreuodd Lewis Morris bregethu; ymhen pum' mlynedd, yr oedd yn bregethwr pur adnabyddus. Hynod mor wahanol erbyn hyn ydyw moddion addysg, a'r ffordd i bregethwr ddechreu pregethu. Pregethwr, neu efrydydd yn myn'd i Fryn-y-gath