Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

merched, 50; cyfan, 72. Yn eu plith y mae enw John Ellis, ac am fis Awst y flwyddyn hono, y mae y gair marw ar gyfer ei enw yn y llyfr. Dyna y mis a'r flwyddyn y cymerodd hyny le, yn y 52ain mlwydd o'i oedran. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i'r Ordeiniad cyntaf ymhlith y Methodistiaid gymeryd lle. Yn ol ei safle, o ran parch a dylanwad yn y Sir, pe buasai byw un flwyddyn yn hwy, y tebygolrwydd ydyw mai John Ellis, Abermaw, fuasai un o'r rhai cyntaf i gael ei ordeinio o Feirionydd.