PENOD IV.
GOSOD Y PREGETHWYR A'R ADDOLDAI O DAN AMDDIFFYNIAD Y GYFRAITH.
Pedwar pregethwr cyntaf Gorllewin Meirionydd—William Pugh, Llechwedd—Ei gartref—Ei dröedigaeth—Maesyrafallen, y lle y pregethid gyntaf gan yr Ymneillduwyr—Yn cadw yr Ysgol Gylchynol yn Aberdyfi —Milwyr yn ei ddal yn ei dy—Darluniad o agwedd y wlad gan Robert Jones, Rhoslan—Mr. Charles ar fater yr Erledigaeth fawr yn 1795—Yr Erledigaeth ffyrnicaf yn ardaloedd Towyn, Meirionydd—Y milwyr yn methu dal Lewis Morris—Ymwared yn dyfod o'r Bala—Chwarter Sessiwn Sir Feirionydd, 1795—Diwedd oes William Pugh.
UN o'r pedwar cyntaf a ddechreuodd bregethu ymhlith y Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd William Pugh, Llechwedd, plwyf Llanfihangel-y-Pennant. Y pedwar, yn ol trefn amseryddol, oeddynt Edward Roberts, Trawsfynydd, yr hwn a adnabyddid yn ei oes wrth yr enw Hen Vicar y Crowcallt; John Ellis, Abermaw; Edward Foulk, Dolgellau; a William Pugh. Fe ddechreuodd Lewis Morris yn fuan wedi hyn. Ond nid ydyw yn hollol sicr pa un ai Edward Foulk ai William Pugh ddechreuodd lefaru gyntaf. Dywed Methodistiaeth Cymru, ac yr oedd Robert Jones, Rhoslan, wedi dweyd yr un peth o'i flaen, nad oedd yr un cynghorwr i'w gael yn y flwyddyn 1785, o Roslan yn Sir Gaernarfon, hyd Fachynlleth yn Sir Drefaldwyn. Mor anaml oedd y cynghorwyr y pryd hwnw o'u cymharu â'r nifer sydd yn yr un rhanbarth yn awr, ymhen cant a naw (1894) o flynyddoedd! Rhoddwyd hanes yr ysgolfeistr a'r pregethwr dylanwadol, John Ellis, Abermaw, yn yr ysgrif ddiweddaf. Gwneir yn bresenol rai crybwyllion am William Pugh. Ni chyrhaedd—