Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd efe enwogrwydd John Ellis, fel ysgolfeistr na phregethwr; eto, teilynga ei enw le ymhlith ffyddloniaid y Cyfundeb yn Sir Feirionydd, ar gyfrif ei fod wedi sefyll yn dyst amlwg dros y gwirionedd mewn amser hynod ar grefydd, ac am mai efe oedd un o'r rhai cyntaf a gafodd ei ddirwyo i £20 am bregethu heb drwydded, amgylchiad a arweiniodd y Cyfun- deb i alw eu hunain yn Ymneillduwyr, ac i geisio nawdd cyfraith y tir dros y pregethwyr a'r capelau, yn gystal a thros y tai anedd lle y pregethid yr efengyl ynddynt.

Ganwyd William Pugh yn Maesyllan, ffermdy adnabyddus o fewn chwarter milldir i'r Llechwedd, man lle y treuliodd gydol ei oes, Awst 1af, 1749. Yr enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef, ac yr adnabyddir ef hyd heddyw, yn mro ei enedigaeth, ydoedd William Hugh. Ystyrid ei rieni yn grefyddol, yn ol syniad pobl yr oes hono am grefydd. Llenwid meddwl. y bachgen William âg ystyriaethau crefyddol, tra yn ieuanc iawn. Byddai rhyw feddyliau arswydlawn am holl-bresenoldeb Duw a byd tragwyddol yn ei feddianu wrth fugeilio defaid ar hyd ochrau Cader Idris. Ond gwisgodd yr argraffiadau hyny ymaith, ac aeth yntau i ddilyn chwareuon a champau yr amseroedd, a dywedir ei fod ar y blaen gyda'r cyfryw gampau. Yr oedd yn fwy diwylliedig na'r cyffredin o'i gyfoeswyr; medrai ganu Salmau, a darllen y llithoedd yn Eglwys y plwyf pan yn bump oed; dygasid ef i feddwl am bethau yn eu pwysigrwydd cynhenid, a meddai ar deimladau coeth a thyner. Pan o dan argyhoeddiad, llenwid ei fyfyrdodau â braw yn yr olwg ar ei gyflwr colledig, yn gymaint felly nes iddo fod ar fin colli ei synwyrau. Crefydd eglwys y plwyf oedd ei grefydd oll yn nyddiau ei ieuenctyd. Saif Maesyllan, lle y ganwyd ef, a'r Llechwedd, lle y treuliodd ei oes, yn ngolwg eglwys plwyf Llanfihangel-y-Pennant, ac o fewn rhyw ddau ergyd careg iddi. Mae y Llechwedd, fel yr arwydda yr enw, ar lechwedd bryn uchel, yn gwynebu ar Gader Idris, y