Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyneb pellaf oddiwrth Ddolgellau, bron wrth droed y Gader, a rhyw ddwy filldir o Abergynolwyn, ac wyth milldir o Dowyn. Yn Ty'nybryn, yn yr ardal hon y ganwyd Dr. William Owen Pughe, y Geiriadurwr enwog, ddeng mlynedd ar ol genedigaeth William Hugh. Yn yr un ardal hefyd y ganwyd Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Ac at William Hugh i'r Llechwedd yr aeth Mary Jones, ar ol casglu digon o arian, i ymholi ymha le y gallai gael Beibl. Yntau a'i cyfarwyddodd, yn y flwyddyn 1800, pan oedd hi yn 16 oed, i'r daith fythgofiadwy i'r Bala, at Mr. Charles, i geisio Beibl. Yr oedd William Pugh y pryd hwnw vn haner cant oed, ac yn swn ei gynghorion a'i weinidogaeth ef y gwreiddiodd argraffiadau crefyddol cyntaf ar feddwl Mary Jones.

Priodolai William Pugh ei droedigaeth i'r adeg yr aeth i wrando ar y Parch. Benjamin Evans, gweinidog perthynol i'r Annibynwyr, yn pregethu yn agos i'r Abermaw. Nid oedd gan y Methodistiaid, na'r un enwad Ymneillduol arall, achos crefyddol yn un man yn yr holl wlad, yn amgylchoedd ei gartref, rhwng afon Abermaw ac afon Dyfi, yn nyddiau ei ieuenctyd. Ond deuai y gweinidog parchedig uchod yr holl ffordd o Lanuwchllyn (canys yno yr oedd yn weinidog) i ffermdy o'r enw Maes-yr-afallen, o fewn rhyw bedair milldir i Abermaw, i bregethu yn achlysurol, gan fod y tŷ hwnw wedi ei drwyddedu iddo i gynal moddion crefyddol. Clywodd William Pugh, a gwr arall o dueddiadau crefyddol, o'r enw John Lewis, am y pregethu ar ddull newydd oedd y tu draw i afon Abermaw, ac meddai yr olaf, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wed'yn." A rhyw foreu Sul, y mae William Pugh yn cychwyn i'w daith, dros lechwedd Cader Idris, pellder o leiaf o bymtheg milldir, i fyned i wrando ar y pregethu newydd. Ni fuasai erioed o'r blaen yn gwrando y tuallan i furiau Eglwys y