Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plwyf, a synai yn fawr at ddull dirodres a diseremoni o gario y gwasanaeth ymlaen. "Yr oeddwn yn golygu," meddai, "fod i wr o ddull a gwisg gyffredin, esgyn i ben stôl i siarad â'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Gair arferedig hyd. heddyw, yn y parthau hyn o Sir Feirionydd, ydyw y gair "simpl," neu "simpil." Golygir wrtho rywbeth islaw, neu waelach na'r cyffredin. Yr oedd dull y gwasanaeth mor wael ac mor ddieithriol yn ngolwg William Pugh, fel na ddeallodd ac na chofiodd yr un gair o bregeth y boreu. Ond am bregeth yr hwyr, testyn yr hon ydoedd Rhufeiniaid i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi, er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu," nid anghofiodd mo honi hyd derfyn ei oes. Glynodd y gwirionedd a draethwyd yn ei glywedigaeth yn yr odfa hono yn ei feddwl. O hyny allan yr oedd yn ddyn newydd, a dechreuodd cyfnod o ddefnyddioldeb ar ei fywyd. Bu yr amgylchiad hwn yn foddion i ddwyn yr Efengyl o'r tu hwnt i afon Abermaw i'r rhanbarth o'r wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon, rhanbarth sydd o leiaf yn bymtheng milldir o led, ac yn ugain milldir o hyd. Nid oedd yn y rhan hon yr un gynulleidfa Ymneillduol, na'r un gymdeithas Eglwysig, yr amser y daeth Mr. Charles i fyw i'r Bala, ac y dechreuodd sefydlu yr Ysgolion Cylchynol. Y mae o fewn yr un cylch yn awr, gan y Methodistiaid yn unig, ugain o eglwysi.

Bu William Pugh dros ryw dymor yn un o ysgolfeistriaid yr Ysgolion Cylchynol. Pa bryd y dechreuodd nid yw yn hysbys. Hawdd y gellir gweled fod ynddo y cymhwysderau yr edrychai Mr. Charles am danynt wrth gyflogi yr ysgol- feistriaid. Yr oedd yn fwy diwylliedig na'r cyffredin o'i gydoeswyr; yr oedd yn ddeallus, ac yn medru darllen, er yn dra ieuanc. Profir y ffaith ei fod i fesur yn ddeallus oddiwrth yr ymddiddan a fu rhyngddo ef a'i gyfaill, John Lewis, fel y crybwyllwyd eisoes, mewn perthynas i wrando yr Ymneill-