Y Parch. Robert Jones, Rhoslan, hanesydd hynaf y Methodistiaid, ag eithrio Mr. Charles ei hun, yn Nrych yr Amseroedd, a ddywed:—"Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un diben, taflu rhai allan o'u tiroedd, trin eraill yn greulawn trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, ymysg eraill un Lewis Evan (Llanllugan, Sir Drefaldwyn), a fu yn y carchar yn Nolgellau flwyddyn gyfan, gyru eraill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rhai yr holl flynyddoedd yn defnyddio'r gyfraith i gosbi pregethwyr, ynghyd a'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny rhag y doethion a'r deallus trwy yr holl amser; a thrwy hyny fe gafodd yr efengyl yr holl wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prif—ffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd, a glanau y moroedd, &c., yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw wr boneddig. oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Daliwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd Lewis Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno rhoddodd ei hun dan nodded y llywodraeth."
Y mae Mr. Charles yn ei Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig—llyfr bychan rhagorol a ddygwyd allan yn Gymraeg ddechreu y flwyddyn hon (1894)—yn crybwyll amryw ffyrdd a ddefnyddiodd y gelynion i ymosod ar y Methodistiaid, a chyfeiria yn ei lyfr at yr ymosodiad crybwylledig yn y paragraff uchod. Y blynyddoedd cyntaf, y wedd ar yr ymosodiad ydoedd ffyrnigrwydd y werin anwybodus, arfau creulondeb y rhai oedd ffyn, llaid, a cheryg." Archollwyd llawer o'r saint yn eu cyrff, ac ni iachawyd eu creithiau nes disgyn of honynt i'r bedd. Ar ol hyn newidiwyd y dull o erlid. Ceisiwyd rhoddi deddf y Ty Cwrdd (Conventicle Act) mewn grym.