Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ebe Mr. Charles, "Costiodd ein hymlyniad diysgog wrth yr Eglwys Sefydledig i ni mewn dirwyon, yn ystod un flwyddyn, yn agos i gan' punt; oblegid yr oeddym yn petruso cofrestru ein tai addoliad, a thrwyddedu ein pregethwyr fel Ymneillduwyr." Cyfeirir yn y costau mewn un flwyddyn mewn dirwyon, yn ddiamheu, at yr amgylchiadau cythryblus a gymerodd le yn y rhan grybwylledig o Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1795. Yn y rhan olaf o'r dyfyniad hefyd, dyry Mr. Charles eglurhad ar y ffaith ddarfod i'r Methodistiaid oedi yn hir i alw eu hunain yn Ymneillduwyr. Hyny yw, oherwydd eu hymlyniad wrth yr Eglwys Sefydledig, yr oeddynt yn petruso cofrestru y tai a thrwyddedu y pregethwyr, ac nis gallent wneuthur hyn heb iddynt yn gyntaf gydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr. Bu y mater hwn gerbron mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd mor foreu a'r flwyddyn 1745. Barnai rhai o'r cynghorwyr y pryd hwnw mai gwell oedd iddynt osod eu hunain o dan amddiffyniad y gyfraith trwy gymeryd trwydded i bregethu, gan eu bod mewn ofnau i gael eu dal, a'u cymeryd yn garcharorion. Yr hyn y cytunwyd arno yn y Gymdeithasfa hono (ceir y penderfyniad yn y Trevecca Minutes) ydoedd, "y byddai cymeryd trwydded gyfreithiol i bregethu ar hyn o bryd, ar y naill law, a gadael y gwaith ar y llaw arall, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd." Mor gadarn y glynai y tadau wrth yr hyn a ystyrient oedd yn iawn. Tra yr oedd yr enwadau Anghydffurfiol eraill yn cydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr, ac mewn canlyniad yn meddu hawl gyfreithiol i gofrestru lleoedd addoliad, ac i drwyddedu pregethwyr, parhaodd y Methodistiaid am haner can' mlynedd lawn i sefyll at y penderfyniad a basiwyd ganddynt yn y Gymdeithasfa uchod yn Mlaen-y-glyn, Gorphenaf 3ydd, 1745— Ond daeth amgylchiadau, pa fodd bynag, i wisgo gwedd mor fygythiol, fel y gorfu iddynt hwythau fyned i lechu o dan gysgod cyfraith y tir, yr hyn a wnaethant trwy gyffesu y