broffes angenrheidiol o'u Hymneillduaeth. Yn yr amser a grybwyllwyd eisoes, yr oedd yn byw yn Ynys Maengwyn, yn agos i Dowyn Meirionydd, foneddwr yn llawn llid yn erbyn y Methodistiaid, yr hwn a gymerodd y gyfraith yn ei law ei hun i gosbi gyda llymder tost y pregethwyr, a'r rhai a wrandawent arnynt. Gan ei bod yn amser o ryfel poeth a pharhaus rhwng y deyrnas hon a Ffrainc, cadwai y boneddwr nifer o filwyr o amgylch ei balas. Dywed yr hen bregethwr, Lewis Morris, yr hwn a breswyliai o fewn saith milldir i balas y boneddwr, a'r hwn oedd yn berffaith hysbys yn holl amgylchiadau yr erledigaeth, fod ganddo gynifer a "phedwar ugain" o filwyr wrth ei alwad. Bu y milwyr o wasanaeth mawr iddo i gario amcanion yr erledigaeth ymlaen, ac i greu dychryn ymhlith y crefyddwyr. Dechreuasai yr erledigaeth, a gwelid arwyddion ystorm yn crynhoi er's rhai blynyddau, ond yn y flwyddyn 1795 y torodd allan yn ei gwedd ffyrnicaf, ac y cyrhaeddodd ei phwynt uwchaf. Gosodai y boneddwr gyflegrau a drylliau ar gyfer y manau y cynhelid y gwasanaeth crefyddol, gan fygwth chwythu yn ddrylliau pwy bynag a ymgasglent yno, Yr oedd ganddo denantiaid yn ardal Corris; hyd y gellir gweled, yno y dechreuodd yr erledigaeth yn y wedd ffyrnig hon. Yno y bygythiwyd bwrw Jane Roberts, Rugog, un o'r pump crefyddwyr cyntaf yn Nghorris, allan o'i thyddyn. Yno yr oedd Dafydd Humphrey yn byw, gwr duwiol a phenderfynol, taid Mr. Humphrey Davies, U.H., Abercorris, yr hwn pan glywodd fod y milwyr ar eu ffordd i Gorris, a gymerodd y pulpud ar ei gefn o'r Hen Gastell, y ty y cynhelid y gwasanaeth crefyddol ynddo, ac a'i cuddiodd yn y beudy; yntau ei hun a ymguddiodd yn y rhedyn ar y llechwedd uwchlaw, "a gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi Cwm Corris o ben bwygilydd." Wedi aflwyddo y tro hwn, gyrwyd y milwyr allan i ddal a dirwyo eraill. Anfonwyd deuddeg o honynt, fel y crybwyllwyd, i
Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/55
Gwedd