Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddal William Pugh. Cymerodd un o'r deuddeg arno fod yn glaf ar y ffordd, ac ymesgusododd; ond cyrhaeddodd yr unarddeg yn arfog at y Llechwedd, a daliasant y pregethwr yn ei wely. Aeth yntau gyda'r milwyr o flaen yr Ustus, a gorfu iddo dalu £20 o ddirwy. Trwy gynildeb ei wraig, medd yr hanes, ynghyd a chynorthwy cyfeillion eraill, talwyd yr ugain punt, a gollyngwyd yntau yn rhydd. Cariwyd y newydd i glustiau y boneddwr fod William Pugh wedi pregethu drachefn yn Nolgellau, a phe llwyddasid i'w ddwyn i'r ddalfa yr ail dro, buasai y ddirwy yn £40. Rhag yr aflwydd hwn, llwyddodd i ddianc i ymguddio yn rhywle hyd Chwarter Sessiwn nesaf y Sir, pryd y rhoddwyd iddo amddiffyniad y gyfraith. Dywedwyd am Lewis Morris, ddarfod iddo ddianc i'r Deheudir rhag y rhai a geisient ei ddwyn i'r ddalfa. Yr oedd yn wybyddus iddo ef ei hun, ac i'w gyfeillion, fod yn mwriad y boneddwr erlidgar, pe llwyddasai i'w ddal, ei roddi ar fwrdd Man of War, neu ei anfon ar unwaith i faes y gwaed. Rhoddasid gorchymyn cyn hyn i'w gymeryd i fyny pan yn pregethu heb fod nepell oddiwrth balas y gwr mawr, ond ofnai y dynion osod llaw arno, gan ei fod y fath gawr o ddyn. Modd bynag, gymaint oedd awch yr erlidiwr i anrheithio y rhai penaf o'r saint, fel y rhoddodd orchymyn i'r milwyr, dranoeth wedi dal William Pugh, i fyned allan i ddal Lewis Morris. Ond yn rhagluniaethol yr oedd ef wedi myned oddicartref, ar gyhoeddiad i Sir Drefaldwyn, ac ar ei ffordd adref aeth i'r Bala, ac erbyn hyn yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ac eraill, mewn pryder mawr yn ei gylch, a hwy a'i perswadiasant ef i beidio myned adref, ond i ffoi i Sir Benfro, at Cadben Bowen, Llwyngwair, yr hwn oedd yn Ustus Heddwch, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid. Mor rhamantus ydyw hanes y daith hon, ac mor rhyfedd y diangodd yr hen bererin rhag cael ei fradychu, a'i ddwyn i'r ddalfa. "Ar y ffordd o'r Bala," ebe ef ei hun, "yr oeddwn yn myned trwy bentref Llanymowddwy; yr oedd