Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bala, ai nid priodol oedd gosod y pregethwyr a'r tai addoliad yn ddioedi o dan nawdd y gyfraith, trwy y Ddeddf Goddefiad. Nid oedd pawb eto yn cydweled. Gwrthwynebid gan y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynent ar un cyfrif gael eu galw yn Ymneillduwyr. Ond yr oedd Mr. Charles, a John Evans, o'r Bala, yn bleidiol. Ar y cyfan, fodd bynag, yr oedd addfedrwydd yn awr yn y Cyfundeb i gymeryd y cam hwn y buwyd. yn hwyrfrydig o'r dechreu i'w gymeryd; ac wrth weled peryglon mawrion pregethwyr ac aelodau trwy yr erlidigaeth chwerw hon, boddlonodd pawb. Bellach yr oedd disgwyliad mawr am Chwarter Sessiwn y Sir, yr hwn a gynhelid yn y Bala, yr unig lys cyfreithiol lle yr oedd y trwyddedau i'w cael. Yr oedd y ffoedigion wedi ymgasglu ynghyd yno, ynghyd a phawb oedd yn disgwyl cael eu gosod dan nawdd y gyfraith. Yr oedd Mr. Charles a brodyr zelog y Bala wedi sicrhau gwasanaeth cyfreithiwr galluog, yr hwn oedd yn Ymneillduwr, sef Mr. David Francis Jones, o Gaerlleon, i'w hamddiffyn. Ac ar y 17eg o Gorphenaf, 1795, rhoddwyd allan lïaws o'r trwyddedau cyfreithiol, a chydnabyddodd y Methodistiaid eu hunain o hyny allan yn Ymneillduwyr.

Yr oedd ynadon Sir Feirionydd yn gryf a phenderfynol yn erbyn rhoddi y trwyddeddau cyfreithiol hyn i'r Methodistiaid, a phe gallasent eu gomedd, ni roddasent mo honynt o gwbl. Ond yr oedd y gyfraith yn eu gorfodi i'w rhoddi, a phe buasent yn gwrthod, buasai y gyfiaith yn cael ei thori, a hwythau eu hunain yn dyfod i afael y gyfraith fel ei throseddwyr. Un o'r ynadon a'u harwyddodd, yr hwn oedd offeiriad Llandderfel, a ddywedai yn gyhoeddus yn y llys, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." "Y cwbl sydd arnom ni eisieu," ebe Mr. Jones, cyfreithiwr y Methodistiaid, "ydyw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono."

Un o ffyrdd y gelynion oedd yr erledigaeth hon i ymosod