ar y Methodistiaid yn ystod y cant a haner o flynyddoedd eu hanes, a hyny wedi i oruchwyliaeth "y ffyn, y llaid, a'r ceryg beidio." Y dull nesaf ydoedd ymosodiad trwy y wasg, cyhuddo ger bron y byd bobl gywir eu hamcanion, gan draethu anwireddau, a chyhoeddi traethodau adgas ac enllibus i'w pardduo. Ac ymhen y saith mlynedd union ar ol yr amgylchiad cyffrous y rhoddwyd darluniad o hono, sef yn y flwyddyn 1802, y galwyd ar Mr. Charles, trwy benodiad y Gymdeithasfa, i ysgrifenu ei Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig.
Ar ol i helyntion blwyddyn gofiadwy yr erledigaeth fawr fyned heibio, treuliodd Wm. Pugh ei oes, mewn heddwch a llonyddwch, yn y Llechwedd, ei gartref neillduedig a thawel. Nid oes hanes am dano yn cadw ysgol o hyny allan. Yn ei dy ef, wedi ei gofrestru, mae yn debyg, y cynhelid holl wasanaeth crefyddol yr ardal am flynyddoedd, a'r moddion a gynhelid yno a ddaeth yn hedyn yr achos sydd yn awr yn Abergynolwyn. Efengylydd mwyn a thyner ydoedd ef, ei lais yn beraidd a soniarus a chryf. Efe am dymor maith fyddai yn arwain y canu ar y maes yn Sasiynau y Bala. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a bu yn ddefnyddiol iawn gydag achos crefydd yn ei ardal ei hun a'r ardaloedd cylchynol. Y mae ei hiliogaeth a'u hysgwyddau yn dynion o dan yr arch gyda'r Methodistiaid hyd heddyw, a rhai o honynt yn gerddorion fel yntau. Bu farw Medi 14, 1829, yn 80 mlwydd oed. Ysgrifenwyd cofiant am dano i'r Drysorfa gan ei fab, yr hwn a fu am flynyddau yn arweinydd y canu yn un o gapelau Liverpool.