PENOD V.
Y PARCH ROBERT EVANS, LLANIDLOES.
Yr Ysgolfeistriaid yn dianc rhag cael eu herlid—Eu dull o symud o fan i fan —Tystiolaeth y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd—Meirion a Threfaldwyn yn cael yr Ysgolion gyntaf—Y Parch. Thomas Davies, Llanwyddelen—Bore oes y Parch. Robert Evans—— Yn cychwyn o'r Bala yn 1807—Yn cyflawni gwrhydri yn ngwaelod Sir Drefaldwyn—Blaenffrwyth y Diwygiad yn ngwaelod y Sir—Darluniad Robert Evans o'r wlad o gylch 1808—Llythyr Mr. Charles—Robert Evans yn symud i Lanidloes—Yn ddiweddaf oll i Aberteifi.
YR oedd yr Ysgolion Rhad Cylchynol wedi eu rhoddi ar waith gan Mr. Charles, ddeng mlynedd lawn cyn blwyddyn yr Erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd yn 1795, y rhoddwyd ychydig o'i hanes yn y benod flaenorol. Erbyn y flwyddyn hon, yr oeddynt wedi gwneuthur llawer o wasanaeth, ac wedi cyraedd yn agos i anterth eu poblogrwydd a'u defnyddioldeb. Yr ysgolfeistriaid, yn rhinwedd eu swydd fel rhai yn dysgu ieuainc a hen i ddarllen gair yr Arglwydd, fuont yn foddion i ffurfio cnewyllyn yr achos mewn llawer ardal, yn y cyfnod hwn. Ond nid oes wybodaeth ddarfod i neb o honynt hwy am eu bod yn ysgolfeistriaid, syrthio o dan fflangell yr Erledigaeth grybwylledig, er i lawer o honynt gael eu camdrin yn chwerw mewn manau eraill. Y pregethwyr, o herwydd eu bod yn pregethu heb drwydded, a'r tai a'u derbynient i bregethu ynddynt heb eu trwyddedu, ydoedd nôd dialedd yr erlidwyr yn yr erledigaeth hon. Hawdd y gallasai yr ysgolfeistriaid symudol, yn anad neb, ddianc o gyrhaedd y poenydwyr, gan nad oedd i neb o honynt hwy ddinas barhaus yn unman. Gwaith cydmarol rwydd, yn yr ystyr o ymfudo, ydoedd symud yr ysgol a'r ysgolfeistr yn nyddiau goruchwyliaeth yr Ysgolion Cylchynol. Sefydlid