yr ysgol mewn ardal, a symudid hi i ardal arall, pan ddelai y tymor i fyny, mewn llai o amser nag un-dydd un-nos. Yr oedd y cyfleusderau i gynal yr ysgolion yn hynod o brinion ac anmhwrpasol. Nid oedd ysgoldai wedi eu hadeiladu mewn tref na gwlad; ac nid oedd ond ychydig iawn o gapelau y pryd hwnw. Gallesid, er engraifft, gyfrif holl gapelau Gorllewin Meirionydd, yn y flwyddyn 1800, ar benau bysedd un llaw, a thebyg ydoedd yn yr holl siroedd. Nid yn y capelau y cynelid yr ysgolion dyddiol cylchynol y pryd hyn, fel y buwyd yn gwneuthur am haner canrif wedi hyny; ond mewn tai anedd, ac ysguboriau, a beudai, neu unrhyw adeiladau eraill cysylltiedig â'r ffermdai. Byddai raid i'r trefi a'r pentrefi ildio eu hawl yn yr Ysgol, er mwyn iddi fyned yn ei thro i'r ardaloedd gwledig, a'r cymoedd anmhoblog, gan mai Ysgol Gylchynol ydoedd. Saith mlynedd yn ol (yn 1888), clywsom ŵr oedranus yn adrodd ddarfod iddo glywed ei dad yn adrodd, fel y cofiai yn dda am y diwrnod y daeth un o'r ysgolfeistriaid i dŷ ei rieni, i gychwyn ysgol yn yr ardal. Deuai yno, a'i gelfi a'i eiddo i gyd gydag ef, mewn car llusg. Yr oedd ei holl glud yn gynwysedig mewn sypyn o ddillad at ei angen ei hun, ynghyd ag ychydig o lyfrau elfenol er mantais i'r ysgol—llyfrau Cymraeg o waith Griffith Jones, Llanddowror, a'r rhai a ychwanegodd Mr Charles atynt. Arosa yn y ffermdy hwn un mis, gan dderbyn bwyd a llety yn rhad, yn y ffermdy arall y mis arall, ac felly yn y blaen. A phan ddelai y tri, neu chwech, neu naw mis i fyny, cychwynai ef a'i offer gydag ef yn yr un dull ag y daethai, i gychwyn yr ysgol drachefn mewn cymydogaeth arall. Mor syml a dirodres ydoedd yr hen ysgolfeistriaid, fel y gellid tybied eu bod wedi llwyrfeistroli cyngor yr Apostol, "O bydd genym ymborth a dillad, ymfoddlonwn ar hyny."
Ymddengys ddarfod i rai siroedd fwynhau ffrwyth yr Ysgolion Cylchynol yn fwy nag eraill. Gosodwyd mwy o nifer o