yn y Bala yn ddigon o reswm dros fod Sir Feirionydd wedi ei breintio yn helaeth yn yr ystyr hon, ac y mae mwy o hanes yr ysgolion fu ynddi hi ar gael hyd heddyw. Sir Drefaldwyn, hefyd, a ddaeth i mewn yn helaeth am yr un breintiau, am y rheswm, yn un peth, ei bod yn agosach i'r Deheudir, o'r lle y daeth y Diwygiad Methodistaidd; a chan fod rhanau o'r sir hon wedi ei harloesi yn foreuach, yr oedd yn barotach i dderbyn yr ysgolion. Gwnaeth Howell Harries ei ymddangosiad yma yn foreu, a dilynwyd ef gan amryw o'r diwygwyr eraill. Planwyd amryw o eglwysi, yn enwedig yn ngwaelod y sir, y pryd hwnw. Gafaelodd crefydd yn foreu mewn rhai parthau o'r wlad, fel erbyn dyddiau Mr. Charles, yr oedd y tir wedi ei fraenaru, ac yr oedd yma addfedrwydd a pharodrwydd i alw am yr ysgolion ar eu cychwyniad cyntaf allan. Mewn llawer o fanau, yr ysgolion dyddiol hyn a'r ysgolfeistriaid fyddent yn offerynau i ddeffro y bobl i ystyried eu cyflwr, a hwy fyddent y moddion uniongyrchol i ffurfio cnewyllyn achos crefydd yn y manau lle yr arhosent. Ond yn y sir hon, digwyddodd yn wahanol. Yr oedd eglwysi wedi eu planu, a chrefydd y Diwygiad wedi enill y blaen ar yr ysgolion, a digaregu y ffordd i'r fath raddau, nes peri addfedrwydd yn yr ardaloedd i alw am foddion addysg i'w plith, trwy offerynoliaeth yr Ysgolion Dyddiol Cylchynol. Heblaw hyny, hefyd, bu yr ysbryd crefyddol a ddaethai eisoes i'r cyrion hyn, yn foddion i fagu a meithrin dynion cymwys i fod yn athrawon, megis John Davies, y Cenhadwr, a John Hughes, Pontrobert, am y rhai y crybwyllwyd yn barod. Bu eraill hefyd yn ysgolfeistriaid. cyflogedig o dan arolygiaeth Mr. Charles, yn Sir Drefaldwyn, yn fwy agos i ddiwedd ei oes, ac yn eu plith yr ydoedd.
Y PARCH. T. DAVIES, LLANWYDDELEN.
Ychydig sydd wedi ei ysgrifenu am dano ef, ac y mae hanes ei fywyd yn awr yn anhawdd dyfod o hyd iddo, gan fod ei gydoeswyr wedi eu cludo o un i un at eu tadau. Ond y mae