llawer o hen bobl yn ardal yr Adfa yn ei gofio yn dda. Dywedir y bu ei rieni yn byw yn ardal Cynwyd, yn Sir Feirionydd, ac mai yno y magwyd Thomas Davies. Yn y Gymdeithasfa, gan Mr. Edward Jones, Bangor, ceir ei enw yn rhestr gweinidogion Sir Drefaldwyn—yn dechreu pregethu yn 1821; yn cael ei ordeinio yn 1838; yn marw Ionawr 20, 1842, yn 49 mlwydd oed. Tebygol ydyw iddo dreulio ei oes bron yn gwbl yn rhan isaf y sir hon. Ysgrifenodd hanes yr achos yn Llanwyddelen, i Oleuad Cymru, yn 1830, cyfrol 7fed, tudal. 10. Cofnodir gan ysgrifenydd lleol ddarfod iddo fod yn weithgar gyda'r Ysgol Sabbothol, a llenwi y swydd o flaenor cyn dechreu ar waith y weinidogaeth. Meddai ddylanwad mawr yn yr ardal lle y preswyliai. Adnabyddid ef fel dyn tawel, diymffrost. Yr oedd ei ymddangosiad yn ddychryn i'r mwyaf gwamal. Rhedai heidiau o fechgyn gwamal yr ardal ymaith y foment y deuai ef i'r golwg.
Bu cais ar ol ei farw am wneuthur cofiant iddo, ond ni wnaed mo hyny. Cyfansoddodd John Hughes, Pontrobert, ac eraill, farddoniaeth ar ei ol. Dyn crwn, gwridgoch, cydnerth ydoedd; yn llawn yni a thân, yn lleisiwr da, ac yn bregethwr cymeradwy. Cadwai yr ysgol gylchynol o fan i fan. Bu yn ei chadw yn y Cefn Du, ffermdy ger Meifod. Y mae Mr. David Jones, Edgebold, Amwythig, sydd yn awr yn fyw, yn cofio ei fod yn yr ysgol yno gydag ef. Bu yn cadw yr ysgol yn Llanrhaiadr Mochnant hefyd, ymhen blynyddoedd ar ol y Parch. John Davies, y Cenadwr i Tahiti. Cadw yr ysgol y byddai yn yr Adfa, ac yn byw yn Tŷ Capel. Arhosai dros y Sul yn y Trallwm, mewn tŷ lle yr oedd y frech wen wedi bod, cafodd yntau y clefyd hwnw yno, a bu farw o hono ymhen ychydig ddyddiau, yn y flwyddyn a nodwyd, yn nghanol ei ddefnyddioldeb.