Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. ROBERT EVANS, LLANIDLOES.

Yr oedd ef yn wr cymeradwy iawn yn ei oes, a'i ddefnyddioldeb yn eang fel addysgwr a phregethwr. Ganwyd ef yn Llangower, gerllaw y Bala, yn y flwyddyn 1784. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, Sir Feirionydd. Aelodau gyda'r Annibynwyr oedd ei rieni, a dygwyd yntau i fyny, yn more ei oes, gyda'r un bobl. Pan yn dair ar ddeg oed ymfudodd i'r Bala, at ewythr iddo, i ddysgu y gelfyddyd o wehydd. Ymunodd yno â'r Methodistiaid, a dechreuodd weithio gyda chrefydd yn fore. Yr oedd wedi ei eni bron yr un flwyddyn ag y ganwyd yr Ysgol Sabbothol; a chan fod ei gartref haner y ffordd rhwng Llanuwchllyn a'r Bala—lleoedd enwog am eu crefydd yr oes hono—clywodd swn caniadau Seion yn nyddiau ei febyd. Ac wrth symud i dref y Bala, dair blynedd cyn terfynu y ganrif ddiweddaf, symudai i blith nifer mawr o saint a phererinion. Aeth yno pryd yr oedd yn ddyddiau euraidd ar grefydd,—y proffwydi yn eu llawn nerth a gogoniant, y blaenoriaid a'r hen grefyddwyr yn bigion. duwiolion y wlad, y diwygiadau crefyddol yn aml, a'r Ysgol Sabbothol yn cyflymu tuag uchelfan ei phoblogrwydd. Yn nghanol awyrgylch mor dyner ac amgylchiadau mor ffafriol, gwreiddiodd argraffiadau crefyddol yn ddwfn ynddo, yn ystod y deng mlynedd y bu yn trigianu yn y Bala.

Pan yn dair ar hugain oed, Mr. Charles, yn ol ei graffder arferol, yn gweled ynddo elfenau dyn defnyddiol, a'i hanfonodd i gadw ysgol gylchynol, i ardaloedd tywyll a phaganaidd yn ngwaelod Sir Drefaldwyn, megis Llangynog, Llansilin, Llanrhaiadr, a manau eraill. Yn 1807 y mae Robert Evans yn gadael y Bala a Sir Feirionydd, ac yn wynebu ar y sir lle y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes. Llangynog ydyw y lle cyntaf iddo ddechreu ar ei waith. Fel hyn yr edrydd Methodistiaeth Cymru am yr anfoniad, a'r amser, a'r lle, a'r