Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith y dechreuodd y gwr ieuanc yn uniongyrchol ei gyflawni "Oddeutu y flwyddyn 1807, anfonodd Mr. Charles i'r lle hwn wr ieuanc crefyddol a siriol i gadw ysgol. Cafodd y cyfarfodydd llygredig ar y Sabbothau yn fawr eu rhwysg yn Llangynog, yn y Pennant, ac yn enwedig yn Hirnant, ond ddarfod tori llawer ar eu grym trwy foddion tra hynod. Yr oedd gwyl fawr o ddawnsio ar y pryd yn cael ei chynal yn Hirnant. Ar ol yr odfa yn Llangynog, aeth y gwr ieuanc yno, yn llawn eiddigedd dros ogoniant Duw a sancteiddrwydd y Sabboth. Daeth yn ddisymwth i ganol y dawnswyr, gan gyfeirio ei gamrau rhwng y rhengau at y fiddler, yn yr hwn yr ymaflodd, gan ei orchymyn i ymbarotoi i'r farn, i roddi cyfrif am ei waith yn halogi Sabbothau Duw. Gwnaeth hyn mewn dull mor ddisymwth ac awdurdodol nes peri distawrwydd yn y fan. Disgynodd arswyd hefyd ar y chwareuwyr, oddiar euogrwydd cydwybod, nes peri iddynt oll ffoi ymaith gyda phrysurdeb, a gadawyd y crvthor yn unig. Yr oedd braw wedi ei ddal yntau, a chaed ganddo addunedu nad ymheliai efe mwyach A'r fath wasanaeth....... Parodd y tro hwn ergyd ychwanegol ar yr hen gampau llygredig, a pharhau a wnaethant i adfeilio a syrthio, fel yr oedd goleuni gwybodaeth, trwy weinidogaeth yr efengyl, yn amlhau."

Dyma wroldeb mewn gwr ieuanc tair ar hugain oed, newydd droi allan oddiwrth ei orchwylion bydol o dref y Bala, teilwng o Howell Harris. Cyfarfyddodd ag erlidiau, a chyflawnodd wrhydri cyffelyb i'r cawr o Drefecca yn ei swydd o ysgolfeistr a phregethwr yr efengyl, er fod dyddiau yr erlid wedi myned heibio erbyn hyn mewn llawer o ardaloedd y wlad. Bu yn foddion i roddi ysgogiad i Fethodistiaeth mewn amrywiol fanau yn y parthau hyn. Yn ngwaith Robert Evans, yn llafurio gyda'r ysgolion cylchynol, y rhoddwyd ail gychwyniad megis i'r diwygiad crefyddol yn rhanau isaf Sir Drefaldwyn. Cawsai y sir hon ei breintio, fel y crybwyllwyd,