Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ag awelon cyntaf y Diwygiad. Daeth Howell Harris yma ar ei deithiau yn 1739 a 1741, ac argyhoeddwyd llawer ymhob odfa o'i eiddo, a glynodd llawer o'r pryd hwnw wrth grefydd. Arferai y Parch. Owen Thomas ddywedyd ei fod wedi bod yn siarad â hen wr yn Sir Drefaldwyn oedd wedi bod yn gwrando ar Howell Harris, ac meddai yr hen wr wrtho, "Yr oedd hwnw yn llefaru am uffern fel pe buasai wedi bod yn uffern, ac yn llefaru am y Nefoedd fel pe buasai wedi bod yn y Nefoedd." Yn y daith gyntaf hon o'i eiddo trwy y sir, yn ol pob tebyg, yr argyhoeddwyd Lewis Evan, o Llanllugan, ynghyd a rhai cynghorwyr eraill. Y mae coffadwriaeth Lewis Evan yn fendigedig. Bu mewn peryglon am ei einioes rai gweithiau yn ei deithiau trwy y Gogledd. Pan ar ei daith trwy Sir Feirionydd, anfonodd un o ynadon heddwch y Bala ef i garchar Dolgellau, ac yno y bu am haner blwyddyn. Er hyny, parhaodd i bregethu hyd nes yr oedd yn 72 mlwydd oed, a bu farw yn y flwyddyn 1792. Ffurfiwyd amryw eglwysi neu gymdeithasau bychain yn ardaloedd Llanllugan a Llanfaircaereinion er yn fore iawn. Yn nghofnodion Trefecca yr ydym yn cael fod Richard Tibbot yn cael ei osod yn ymwelwr cyffredinol y dosbarth hwn. Mae yntau yn anfon adroddiadau manwl am y Cymdeithasau i'r Gymdeithasfa yn ystod y blynyddoedd 1742—5. Yn Nghymdeithasfa Glanyrafon, Sir Gaerfyrddin (Mawrth 1af, 1742), mae Lewis Evan yn cael ei osod i gynorthwyo Morgan Hughes, "mewn gofalu am y Cymdeithasau yn Llanfair, Llanllugan, a Llanwyddelan." Ymhlith llawer o bethau, dywed Richard Tibbot yn ei adroddiadau,—"Mae derbyniad da i Lewis Evan ac Evan Jenkins gyda'r bobl gyffredin, a daw llawer i'w gwrando." Mewn adroddiad arall,—"Y mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn llwyddo Lewis Evan, Llanllugan, ac Evan Jenkins, Llanidloes."

Yr oedd yn Llanllugan y pryd hwn ugain o aelodau.