Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cadwent y cynulliadau (bands) y meibion a'r merched ar wahan. Anfona yr arolygwr hanes cyflwr a phrofiad pob un wrth eu henwau, mewn llythyr i'r Gymdeithasfa: un yn dywyll am ei gyfiawnhad; arall yn pwyso ar Dduw trwy ffydd; dau eraill dan y ddeddf; chwech yn gysurus eu profiad, heb fod i anghrediniaeth nemawr o oruchafiaeth arnynt; dwy o'r merched ieuainc yn mwynhau llawer o ryddid; naw eraill yn dywyll o ran eu gwybodaeth. Ac â llawer o ymadroddion cyffelyb yr adroddir am ddechreuad a chynydd y gwaith da yn eu plith. Ymhen blwyddyn ar ol Cymdeithasfa Watford, ysgrifena Richard Tibbot am y Cymdeithasau yn Sir Drefaldwyn, "Y maent wedi bod yn amddifad iawn o neb yn ymweled a hwy er Cymdeithasfa Watford. Y mae cri yn eu mysg am rywrai i ddyfod atynt, yn enwedig Mr. Rowlands." Yr oedd triugain a chwech o flynyddau wedi myned heibio er pan gynhyrfwyd y wlad trwy udgorn y Diwygiad gan Howell Harris, pan anfonodd Mr. Charles Robert Evans i'r cyffiniau hyn i gadw yr ysgol gylchynol. Yr amcan i gyfeirio at ddyddiau Howell Harris yn y sylwadau blaenorol ydoedd, yn un peth, er dangos fod rhanau o'r wlad heb eu gwareiddio eto, y pryd hwn, ar ol cymaint o amser. Gwaith mawr a graddol ydoedd troi Cymru baganaidd i fod yn Gymru wareiddiedig. Cafodd Robert Evans helyntion blinion i ddwyn y bobl yn y cyffiniau hyn i stat o wareiddiad, yn ogystal ag i addysgu ieuanc a hen i ddarllen Gair Duw. Fel hyn y rhydd ef ei hun yr hanes, pan yn henafgwr yn Llanidloes, i'r Parch. John Hughes, Liverpool:—

"Yn y flwyddyn 1808, mudwyd fi i Lansilin [o Langynog]. Dechreuwyd cadw yr ysgol mewn rhan o dŷ y tlodion, yn nghwr uchaf y pentref. Nid oeddwn yn gwybod am un crefyddwr o un enwad am dair milldir o gwmpas. Yr oedd achos crefyddol wedi bod yn y Lawnt, ond yr oedd hwnw wedi syrthio, y crefyddwyr wedi eu symud, rhai i'r bedd, a rhai wedi myned i ardal y Carneddau i fyw. Yr oedd yr holl fro, gan hyny, yn anialwch gwag erchyll, ac heb ddim ofn Duw yn y lle. Yr oedd yma, er