Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny, un hen wr yn hoff o wrando, ac wrth ymddiddan âg ef, deallwyd mai dymunol fyddai gwneuthur cais ar ddwyn yr efengyl i le, heb fod ymhell, o'r euw Llangadwaladr. Penderfynwyd cynyg ar y gorchwyl, a chafwyd addewid am odfa yno ar ryw brydnawn Sabboth; ond aeth y son i glustiau gwrthwynebwyr, a chasglodd lliaws mawr o Lansilin, Cymdý, a Rhiwlas, yn llawn cyaddaredd, a lluchiwyd y pregethwr, a'i bleidwyr, â darnau o lechau; clwyfwyd llawer, ac yn eu mysg, tarawyd yr hen wr crybwylledig yn ochr ei ben; torwyd ei het, ac archollwyd ei ben yn dost. A phan welodd y pregethwr fod ei wrandawyr mewn perygl o gael eu hanafu, efe a ymataliodd ac a aeth ymaith, gan ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, a dywedyd, Mae yr efengyl yn gadael Llangadwaladr!'

"Ar ol mudo i Lansilin,' medd yr un gwr, 'gwnaed pob ymdrech i gadw ysgolion wythnosol Sabbothol, a nosweithiol. Sefydlwyd rhai yn Llansilin, Rhiwlas, Clynin, ac mewn tŷ ffarm yn agos i Moelfre. Cafwyd lliaws o blant i'r ysgolion, ond ni chaniatawyd i'r gwaith fyned rhagddo heb lawer o anghysuron a mân ymosodiadau; ac ymysg gofidiau eraill, pregethwyd yn fy erbyn gan weinidog y plwyf. Ond er pob gofid, cefais y fath hyfrydwch gyda'r plant, na anghofiaf dros fy oes. Rai blynyddoedd ar ol hyn, mewn odfa yn Cefn-canol, yr ardal nesaf, cefais yr hyfrydwch ychwanegol o weled amryw o'r rhai a fuasent yn blant yn yr ysgol yn Llansilin, yn awr yn ngafael iachawdwriaeth, yn canu ac yn gorfoleddu am y Gwaredwr. Golygfa na allaf ei hanghofio. Fel hyn, mewn amseroedd tywyll, a thrwy foddion disylw, y goleuodd yr Arglwydd ganwyll fechan yn Llansilin, Rhiwlas, Cymdý, &c., na ddiffodda, mi hyderaf, hyd ddiwedd amser.'

"Ar ddymuniad Mr. Charles ac wedi rhyw gymaint o arosiad, symudwyd i Laurhaiadr-yn-Mochnant. Cymerwyd hen ysgubor i gadw yr ysgol ynddi yn agos i'r bont. Daeth ychydig o blant ynghyd y prydnawn cyntaf; ond yr hyn a barodd gyffro anferth yn y lle hwn oedd fod yr athraw yn gweddio mewn hen ysgubor. Arferol oeddwn o ddibenu yr ysgol trwy ganu a gweddio! Cauwyd y drws yn ebrwydd rhagof, rhag na byddai yr ysgubor yn dda i ddim byth mwy. Gwnaed yr holl derfysg yma gan rai a ddylasent wybod yn well. Yn awr (1853), mae yma gapel prydferth, a chynulleidfa dda, a golwg obeithiol ar y gwaith."

Peth arall i'w weled yn yr hanes hwn ydyw, ei fod yn cytuno yn hollol, o ran amser a ffeithiau, a'r adroddiad a rydd Mr. Charles ei hun, mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, yn y