Thomas, blaenor yn yr eglwys hono. Yn ol arfer yr oes hono gyda phregethwyr y Methodistiaid, cariai y wraig ymlaen y fasnach, a llafuriai ei phriod gyda gwaith y weinidogaeth, ynghyd a gofalu am yr eglwysi, a'r achos yn ei holl gysylltiadau, nid yn unig yn Llanidloes, ond hefyd yn y cymydogaethau cylchynol. Perthynai iddo yni blynyddoedd ei ieuenctyd trwy ei oes. Yr oedd yn barchus ymhlith pob graddau, a meddai ar ddoniau a gallu naturiol uwchlaw y cyffredin,—dawn siarad a phereidd-dra llais Ezeciel, llithrigrwydd a gwresogrwydd Apolos, a thystiolaeth pawb ydoedd. ei fod yn ddyn Duw.
Parhaodd amser ei ymdeithiad yn Llanidloes 36 mlynedd. Ac os oedd ei ddyddiau yn ei olwg ei hun yn ychydig a drwg, fel dyddiau Jacob, yn nghyfrif ei frodyr yr oeddynt yn llawer, ac yn dra llwyddianus. Wedi dyfod yn weddw ac yn unig, y mae yn gadael Llanidloes, Mai 10, 1854, ac yn symud i Aberteifi, trwy briodi Mrs. M. Evans, lle mae yn gwneuthur ei gartref am weddill ei oes. Ni byddai yn blino yn nyddiau ei henaint yn adrodd hanesion crefydd boreu ei oes yn y Bala, am Mr. Charles, a John Evans, a Mr. Llwyd. Tymor byr fu iddo yn ei gartref newydd, oblegid terfynodd ei yrfa ddaearol Awst 24, 1860; ac ar gyfrif ei gymeriad a'i wasanaeth, dangoswyd parch mawr i'w goffadwriaeth gan ei frodyr yn Aberteifi.