Evans, Llanidloes, yr hwn y gwnaed crybwyllion am dano eisoes. Ganwyd ef Awst zofed, 1788. Yr oedd yn ieuengach. o bedair blynedd na'i frawd Robert Evans. Dygwyd y ddau i fyny o'u mebyd gyda'r Annibynwyr, yn ol crefydd eu rhieni; symudodd y ddau i'r Bala; ymunodd y ddau â'r Methodistiaid. Cydnabyddai Daniel yn ddiolchgar ei fod wedi ei ddwyn i fyny o'i febyd ar aelwyd grefyddol. Ystyriai hyn yn un o freintiau penaf ei fywyd. Yr oedd rhyw dynerwch mwy na'r cyffredin ynddo er yn fachgen. Prawf o hyn ydoedd, ddarfod iddo gael ei osod i wasanaethu mewn ffermdy, ac iddo fethu aros yno ond am dymor byr yn unig: gadawodd y lle, a dychwelodd adref, o herwydd fod y teulu lle yr arhosai yn arfer llwon a rhegfeydd. Hawdd iawn y gallasai y rhai a adnabyddent Daniel Evans, mewn blynyddoedd addfetach, gredu yr hanesyn hwn am dano.
Ni ddywedir beth a'i dygodd ef i drigianu i dref y Bala; ac hwyrach, o ran hyny, na bu yn aros yn y dref o gwbl, oblegid y mae Llangower yn agos i'r Bala, ac yr oedd tŷ ei rieni yn nes drachefn. Ymunodd, modd bynag, â'r Methodistiaid yno pan yn un-ar-bymtheg oed. Dygwyd ef trwy hyn i sylw Mr. Charles, a chan fod y gwr da yn ei weled yn ddyn ieuanc crefyddol a gobeithiol, cyflogodd yntau hefyd fel y gwnaethai a'i frawd o'i flaen, i fod yn un o athrawon yr Ysgolion Cylchynol. Ugain oed ydoedd pan ddechreuodd ar y gwaith fel athraw, a blwyddyn union ar ol ei frawd y dechreuodd, sef yn y flwyddyn 1808. O chwech i ddeg oedd gan Mr. Charles o ysgolfeistriaid yn ei wasanaeth y flwyddyn hon, ac yr oedd y ddau frawd o Langower, Robert Evans a Daniel Evans, yn ddau o honynt. Bu Daniel Evans yn cadw yr ysgol gylchynol yn y lleoedd canlynol—a digon tebyg mewn lleoedd eraill hefyd—Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Rhiwlas, Llandrillo, Llangwm, Dyffryn Ardudwy, Gwynfryn, Harlech, Penrhyndeudraeth.