Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywed Mr. Morris Davies, blaenor adnabyddus yn Llanrwst, iddo glywed y Parch. Daniel Evans ei hun yn adrodd yr hanes uchod, ac y mae dipyn helaethach fel ei hadroddir ganddo ef. Fel hyn y dywed Mr. Morris Davies:—Yr oeddwn yn fachgen ieuanc 17eg oed pan y clywais yr hen weinidog hybarch yn adrodd yr hanes yn nhy capel Harlech, y lle yr oedd ef a'i deulu yn byw y pryd hwnw. Yr oeddwn yn digwydd cael y fraint o fod yno ryw brydnawngwaith gyda'r gwr yr oeddwn yn ei wasanaeth, ac Evan Thomas, Pen'rallt, hen flaenor yn eglwys Harlech y pryd hwnw, yn cael cwpanaid of de ar ol bod mewn odfa rhyw wr dieithr yn y prydnawn. Yr oedd Seiat yn Harlech y noswaith hono, a dyna y rheswm ein bod yn aros yno. Ar ol bwyta, trodd yr ymddiddan rhwng y brodyr rywfodd, nas gallaf yn awr gofio, at ofal Duw am ei bobl pan y byddont yn ymddiried ynddo, a dywedodd Daniel Evans yr hanes am dano ei hun. "Yr oeddwn," meddai, "wedi myned mor llwm fy ngwisg fel yr oedd arnaf gywilydd myned o gwmpas ar y Sabbothau, a chefais fenthyg dwy bunt gan fy chwaer i brynu dillad; ond yr oeddwn wedi addaw eu talu yn ddidroi yn ol iddi at y rhent, a mawr oedd fy mhryder am fodd i gyflawni fy addewid. Nesäi yr amser penodedig, ac nid oedd yr arian yn dyfod o unman, er gweddio a disgwyl am ymwared o rywle; eto dal yn dywyll iawn yr oedd hi arnaf, ac erbyn i'r amser dd'od i ben nid oedd genyf ond haner penadur, yn lle dwy gyfan i fyned i'm chwaer i'r Bala. Bum yn petruso yn hir y diwrnod cyn y rhent, pa un a wnawn ai myned ai peidio. Ond ar ol hir ystyriaeth, bernais y byddai yn well i mi fyn'd i'r Bala gyda hyny oedd genyf. Felly cychwynais dros y mynydd yn hynod drallodus fy meddwl. Ac yn rhywle ar y ffordd mewn lle anial. lle nad oedd ond Duw a dafad, troais at ryw graig i orphwys. Aethum ar fy ngliniau, a thywelltais fy nghalon gerbron fy Nhad Nefol; a phan yn cychwyn oddiyno i fy siwrna gwelwn.